Mae perchnogion tafarndai yng Nghymru wedi bod yn ymateb i awgrym Boris Johnson y dylai landlordiaid wirio ‘tystysgrifau brechu Covid’ cwsmeriaid wrth y drws.
Mae rhai Gweinidogion, ar lefel Brydeinig, o’r farn byddai hynny’n caniatáu i dafarnwyr weithredu mewn modd mwy proffidiol.
Fodd bynnag, mae nifer o dafarnwyr yn teimlo y byddai’n creu fwy o drafferth na’i werth, gan greu rhwystrau ymarferol ychwanegol i staff a pheryglu eithrio cyfradd o’u cwsmeriaid.
“Dydi o ddim yn practical o’ gwbl”
“Mae o’n stupid dydi,” meddai Dewi Siôn, perchennog tafarn Y Siôr ac Y Llangollen ym Methesda, wrth drafod y syniad.
“Mae yna ddigon o drafferth hefo fake ID fel ma’i, be nesa’, fake Covid passports??”
Yn ôl Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, gallai penderfynu a oes angen i gwsmeriaid gael “tystysgrif brechu Covid” neu beidio fod yn “fater i dafarnwyr unigol”.
“Yn bersonol, fyswn i ddim,” meddai Dewi Siôn, “’da ni’n creu awyrgylch digon sâff yn fy marn i fel mai, heb orfod mynd gam ymhellach.
“Dydi o ddim yn practical o’ gwbl i ddechrau hefo’i. Os wyt ti’n dechrau mynd i holi pobl am Covid vaccine passports – ella bod chdi’n alienatio hanner o dy gwsmeriaid di.
“Y peth ydi hefyd, dydw i ddim mewn grŵp at risk fy hun, dwi’n 34 ac felly y chances ydi pan fydda ni’n ailagor, fyddai ddim wedi cael y jab fy hun.
“Felly pa hawl sydd gen i, i droi rownd a deud wrth bobl ‘na gewch chi ddim dod i mewn, ’da chi ddim wedi cael y jab’, pan dydw i heb gael o fy hun.”
“Stressful fel oedd hi”
Tafarnwyr arall sydd wedi diystyru’r syniad, yw Sara Beechey, perchennog yw Yr Hen Lew Du, Aberystwyth.
“Sai’n credu bydde fe’n rhywbeth bydden ni’n gwneud,” meddai.
“Pan oedden ni ar agor, roedd yr holl waith roedden ni’n gorfod gwneud wrth y drws i adael pobol i mewn yn waith caled ac oedd e eithaf stressful fel oedd hi.
“Trio controlio’r ciw, gwirio ID a thystysgrif vaccine … byddai’r admin tu ôl i adael pobol i mewn yn golygu lot o waith.
“Hefyd mae ein cwsmeriaid ni yn ifanc iawn – rhwng 18 lan i 30, so rheini fydd y rhai diwethaf i gael y vaccine a ‘se fe’n dod i mewn fel rheol, byddai stopio darn mawr o’r boblogaeth i ddod i mewn i dafarndai.
“Sai’n gweld ein math ni o dafarn yn gallu gwneud e rili a hyd yn oes os wyt ti’n dafarn fach, fyddai rhaid cael rhywun ar y drws i fonitro.
“Sai’n gweld e’n digwydd,” meddai.