Bydd canolfan Gymraeg Tŷ’r Cymru yng Nghaerdydd yn cael ei roi ar ocsiwn yr wythnos nesaf.
Yn ddiweddar, mae ffrae wedi codi ynghylch dyfodol y ganolfan yn sgil penderfyniad pwyllgor y ganolfan i wrthod cynlluniau i’w adfer, a phenderfynu ei werthu.
Mae Tŷ’r Cymry, a oedd yn rhodd gan Lewis Williams, ffermwr o Fro Morgannwg, wedi gweithredu fel canolfan i weithgareddau a sefydliadau Cymraeg yng Nghaerdydd ers 1936, gan hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.
Dros y blynyddoedd, mae Tŷ’r Cymry wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Yr Urdd, Ymgyrch Senedd i Gymru, Plaid Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin, Menter Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a Chymdeithas Tŷ’r Cymry.
Erbyn heddiw, mae’r plac sy’n nodi fod y tŷ yn rhodd i Gymry Caerdydd wedi cael ei dynnu oddi ar y wal, a bydd yr adeilad yn cael ei roi ar werth drwy ocsiwn cyhoeddus ar-lein ddechrau wythnos nesaf drwy’r arwerthwyr Seel and Co.
Penderfyniad
Ar ôl clywed bod Pwyllgor Tŷ’r Cymru eisiau cael gwared ar y baich o reoli’r adeilad, buodd grŵp o bobol a sefydliadau lleol yn cyfarfod i ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol.
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus, cafodd cynlluniau manwl eu cyhoeddi yn esbonio sut byddai modd ailddatblygu’r adeilad, ond gwrthododd yr ymddiriedolwyr y cynnig.
Un sy’n anhapus am y penderfyniad yw Steve Blundell, cadeirydd Ranbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith.
“Y sefyllfa yw bod llawer o bobol wedi dod ynghyd, pobol sydd â lot o brofiad yn datblygu adeiladau fel hyn, er mwyn helpu i weithio allan beth yw’r opsiynau,” eglura.
Cynigiodd y grŵp nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol yr adeilad, ac mae “hynny yn profi bod potensial i’r tŷ barhau i wasanaethu’r gymuned leol yn unol â’r dymuniadau yn y rhodd gwreiddiol,” meddai.
“Methu credu’r peth”
“Y darn cyntaf o waith oedd wedi’i nodi yn y cynllun oedd gwneud mwy o ymchwil er mwyn gweld beth yw’r ffordd ymlaen.
“Maen nhw wedi gwrthod hynny heb unrhyw drafodaeth na chyfiawnhad, a gwrthod caniatáu i’r gwaith yna ddigwydd.”
“Mae gwerthiant yn un opsiwn, nid ydym ni’n dweud na ddylid byth werthu’r lle o dan unrhyw amod,” eglura Steve Blundell wrth golwg360.
“Na’i gyd rydym ni’n ei ddweud yw, beth am greu darn o waith ymchwil i weld beth yw’r opsiwn gorau ar gyfer dyfodol y tŷ, gan ystyried yr hanes a’r dreftadaeth sydd ynghlwm â’r adeilad, a’r ffaith bod hynny’n gallu bod yn sail grantiau.
“Dydw i dal methu credu’r peth.”
“Dw i just mor siomedig, mae’r gymuned yn colli allan ar adnodd prin, gwerthfawr, a hanesyddol ar adeg pan nad oes digonedd o gyfleusterau Cymraeg eu hiaith yn y ddinas.
“Gallai hwn fod wedi bod yn rhywbeth fyddai’n eiddo i’r gymuned, allai gael ei adfer gan arian grant, ac yn adnodd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”