Mae ymchwil newydd gan Gyngor ar Bopeth Cymru wedi darganfod fod y pandemig wedi gwneud niwed i iechyd meddwl pobol yng Nghymru.
Mae’r ymchwil yn dangos bod dau draean (67%) o bobol yng Nghymru wedi dweud bod argyfwng Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar eu llesiant.
Ond mae’r effaith yn waeth ymysg pobol sydd wedi’u taro gan y dirywiad economaidd.
Fe wnaeth naw ym mhob 10 (92%) o bobol a ddywedodd eu bod nhw neu rywun ar eu haelwyd wedi colli swydd yn ystod y pandemig weld effaith ar eu hiechyd meddwl.
Daw’r canfyddiadau wrth i astudiaeth gan Brifysgol Aberystwyth ddangos bod effaith economaidd y pandemig yn fwy sylweddol ymhlith cymunedau gwledig Cymru.
Yn ôl yr ymchwil, mae’r problemau a gafodd eu hadrodd yn cynnwys pryderon ariannol, straen neu orbryder, neu deimlo nad oedd ganddyn nhw neb i siarad â nhw.
Mae adborth gan wirfoddolwyr Samariaid Cymru yn dangos bod galwyr yn poeni am effaith y pandemig ar anghenion sylfaenol fel bwyd, tai, a chyflogaeth.
Yn ogystal, maen nhw’n clywed am bryderon sylweddol gan alwyr ynghylch iechyd a salwch meddwl, teuluoedd a pherthnasau, ynysigrwydd ac unigrwydd.
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru a Samariaid Cymru yn rhybuddio bod llawer o’r grwpiau mwyaf agored i niwed wedi cael eu taro waethaf gan y pandemig, a’u bod nhw’n debygol o weld effaith ar eu bywydau yn y tymor hir.
Mae’r elusennau’n galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar fynd i’r afael â diweithdra a thlodi er mwyn lleihau tebygolrwydd iechyd meddwl gwael a risg hunanladdiad yn sgil y pandemig.
Mae’r ddwy elusen yn croesawu cychwyn y Ddyletswydd Gymdeithasol Economaidd, sy’n dod i rym heddiw (Mawrth 31), ac yn cydnabod ei bod yn sbardun pwysig i wella sefyllfaoedd pobol sydd o dan anfantais gymdeithasol ac economaidd.
Nod y ddyletswydd ar y cyfan yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru’n ystyried sut y bydd eu penderfyniadau yn helpu i leihau anghydraddoldeb o ganlyniad i anfantais gymdeithasol ac economaidd.
“Angen gweithredu ar frys”
“Mae llawer o bobl sydd wedi colli eu swyddi neu wedi gweld eu horiau’n cael eu torri yn ystod yr argyfwng mewn sefyllfa ariannol anodd ac yn cael trafferth i gael deupen llinyn ynghyd,” meddai Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru.
“Mae hyn yn achosi llawer iawn o straen a gorbryder, ac yn ei gwneud yn llawer mwy anodd i bobol reoli eu harian neu chwilio am waith arall.
“Mae angen gweithredu ar frys yng Nghymru i fynd i’r afael â’r problemau sy’n dod i’r amlwg, fel dyledion a diweithdra, sy’n cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl.
“Rydym yn parhau i alw am strategaeth ganolog ar dlodi, sy’n hybu ymgysylltu traws-lywodraethol a thraws-sectorol yng Nghymru.”
‘Ffordd hanfodol o atal hunanladdiad’
“Mae’r achosion presennol o’r coronafeirws yn cael yr effaith fwyaf niweidiol ar y rheiny sydd yn yr amgylchiadau mwyaf anodd, er enghraifft y rheiny sy’n cael trafferth gyda dyledion neu ddiweithdra,” esbonia Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru.
“Fel cenedl, mae angen inni fod yn barod i gynorthwyo’r rheiny sydd â’r angen mwyaf, yn awr ac yn y dyfodol.
“Dylid ystyried yr ymdrechion hyn i helpu’r rheiny sy’n wynebu effeithiau tlodi yn ffordd hanfodol o atal hunanladdiad.”
Daw’r ffigurau gan YouGov, oedd wedi holi 2,086 o oedolion yng Nghymru rhwng Hydref 22 a Thachwedd 2 y llynedd.