Mae’r Uchel Lys wedi clywed bod grŵp papurau newydd y Mirror wedi gofyn i ymchwilwyr cudd ddod o hyd i wybodaeth “gefndirol” am farnwr oedd yn ymdrin â chais Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, am gyfrinachedd.
Mae cyfreithwyr ar ran dwsinau o bobol y cafodd eu ffonau symudol eu hacio – gan gynnwys Giggs – yn honni bod cyhoeddwr y Daily Mirror wedi targedu’r barnwyr mwyaf profiadol, “yn enwedig y rhai oedd wedi rhoi cyfrinachedd mewn achosion preifatrwydd”, yn y gobaith o gaffael gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau anghyfreithlon.
Mae anfonebau’n dangos bod MGN wedi ceisio gwybodaeth am farnwyr yr Uchel Lys a’r Llys Apêl hyd at ganol 2011.
Dydy’r barnwyr dan sylw ddim wedi cael eu henwi mewn dogfennau cyfreithiol, a chawson nhw mo’u henwi yn y llys ac eithrio un, sef Mr Ustus Eady, sydd bellach wedi ymddeol o’r Uchel Lys.
Roedd Mr Ustus Eady yn un o’r barnwyr yn achos Ryan Giggs, a gafodd ei enwi yn San Steffan fel unigolyn oedd wedi ceisio cyfrinachedd rhag iddo fe gael ei enwi gan y News of the World fel un oedd wedi cael perthynas â’r seren deledu Imogen Thomas.
Roedd Mr Ustus Eady wedi gwrthod codi’r gwaharddiad ar ei enwi yn fuan cyn iddo gael ei enwi yn San Steffan.
Ymhlith y rhai eraill sy’n dwyn achos yn erbyn MGN mae’r gantores Kerry Katona, y chwaraewr rygbi Danny Cipriani, cyn-reolwr tîm pêl-droed Lloegr Glenn Hoddle, ac Abby Clancy, gwraig y pêl-droediwr Peter Crouch.
Mae cyfreithwyr ar ran y rhai sy’n dwyn achos yn dweud bod MGN “wedi targedu pawb a phopeth”.