Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn ystyried cyflwyno trwyddedau brechu er mwyn i gefnogwyr allu mynd i rai gemau pedwar diwrnod yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Bydd y tymor newydd yn dechrau’n swyddogol ar Ebrill 8, ond fydd cefnogwyr ddim yn cael mynd i gemau tan o leiaf ganol mis Mai, yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth Prydain yn Lloegr.

Ymhlith yr opsiynau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd yw’r angen i gefnogwyr brofi eu bod nhw wedi cael eu brechu cyn y byddan nhw’n cael mynediad i’r caeau.

Yn ôl Neil Snowball, rheolwr gyfarwyddwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), bydd y corff yn “archwilio unrhyw beth sy’n ein galluogi ni i gael ein haelodau a’n gwylwyr yn ôl”.

Mae’n dweud y bydd rhaid ystyried trwyddedau, profi ac olrhain, gwisgo masgiau a chadw pellter mewn caeau fel rhan o’r cynlluniau i sicrhau y byddai cefnogwyr yn ddiogel mewn gemau.

Ymhellach, mae’n disgwyl i’r caeau fod yn chwarter llawn erbyn Mai 17 a’r gobaith yw y bydd modd cael torfeydd yn ôl yn iawn erbyn dechrau’r gemau ugain pelawd ar Fehefin 21.