Bydd seiclwr o Abertawe yn cwblhau cymal olaf ei her o feicio 5,560 milltir, sef y pellter o Gymru i Frasil, dros benwythnos y Pasg.

Dechreuodd Eduardo Jesus yr her ym mis Rhagfyr, gyda’r bwriad o orffen ar fore Sadwrn y Pasg.

Dros y 112 niwrnod diwethaf, mae e wedi bod yn seiclo hyd at 50 milltir y dydd er mwyn codi arian at elusen Achub y Plant.

Hyd yn hyn, mae e wedi codi cyfanswm o bron i £5,000 ar ei dudalen Just Giving er mwyn cefnogi gwaith Achub y Plant wrth iddyn nhw helpu teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig a thlodi.

Daw yn wreiddiol o El Salvador, a chafodd ei fagu ym Mrasil, gwlad sydd wedi dioddef tlodi enbyd ac sydd wedi gweld un o’r cyfraddau uchaf yn y byd o ran marwolaethau Covid.

‘Mae’r heriau y mae rhai plant yn eu hwynebu yn llawer mwy na fy her i’

“Mae Covid-19 wedi effeithio ar bob un ohonom ni,” meddai. Eduardo Jesus, sy’n gweithio i gwmni peirianyddol yn Abertawe.

“I filiynau o blant ym mhob cwr o’r byd mae eu bywydau wedi newid dros nos wrth i ysgolion gau, gwasanaethau iechyd gael eu heffeithio a’r gallu i amddiffyn plant yn y gwledydd ble mae gwrthryfela yn dod yn anos.”

“Mae plant yma yng Nghymru hefyd wedi eu heffeithio wrth i’w teuluoedd brofi caledi economaidd o ganlyniad i’r pandemig.

“Datgelodd ymchwil gan Achub y Plant fod mwy na hanner y teuluoedd yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wedi gorfod torri yn ôl ar hanfodion fel bwyd i oedolion, nwy a thrydan ac eitemau i’w plant fel dillad gaeaf.

“Mae wedi bod yn sialens bod allan ar fy meic bob dydd am hyd at chwe awr, weithiau am 4.30 y bore ac yn aml yn reidio yn y tywyllwch ac mewn amodau gwlyb ac oer iawn.

“Ond mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i werthfawrogi golygfeydd godidog yr arfordir ble rydw i yn byw wrth deithio ar hyd Y Gŵyr a’r Mwmbwls ac mae wedi fy helpu i gadw’n bositif dros y misoedd diwethaf.

“Mae bod allan ar fy meic bob dydd yn gwybod am y gwaith da y mae’r elusen yn ei wneud i helpu plant yng Nghymru wedi bod yn ysgogiad i gadw fynd.

“Mae’r heriau y mae rhai plant yn eu hwynebu yn llawer mwy na fy her i, a gyda phob milltir rwy’n gobeithio y bydd yr arian rwy’n ei godi yn helpu i brynu bwyd, a llyfrau a theganau i’w helpu ar eu taith drwy fywyd.

“Rwy’ hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith y mae’r elusen yn ei wneud i newid y dyfodol i rai plant er gwell.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi hyd yma; fy nheulu, ffrindiau, fy nghydweithwyr a busnesau lleol. Rydw i dal yn gobeithio codi llawer mwy o arian, felly os y gallwch fy nghefnogi byddwn yn ddiolchgar iawn.”

“Pob ceiniog yn gymorth”

Y digwyddiad hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o heriau y mae Eduardo Jesus wedi’u trefnu er mwyn codi arian at achosion da fel rhan o’i brosiect Cycle For Hope – prosiect a sefydlodd yn 2014 wedi i’w ffrind gael damwain wrth feicio.

“Mae’r hyn y mae Eduardo wedi ei gyflawni dros y misoedd diwethaf yn anhygoel ac rydym mor ddiolchgar iddo,” meddai Lucy Potter, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Cymru.

“Mae’n llythrennol wedi mynd yr ail filltir honno, gan deithio pellter sy’n cyfateb i’r daith rhwng Cymru a Brasil, cyfanswm o 5560 milltir!

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn hynod ddyfeisgar wrth feddwl am syniadau sut y gallen nhw barhau i godi arian yn wyneb rhwystrau a chyfyngiadau Covid.

“Mae pob ceiniog yn gymorth i gynnig dyfodol gwell i blentyn. Yma yng Nghymry rydym wedi bod yn cefnogi teuluoedd yn ystod y pandemig gyda’n cynllun grantiau argyfwng sy’n cynnig hanfodion ar gyfer y cartref, talebau bwyd a theganau a llyfrau addysgiadol, er mwyn ceisio lleddfu’r straen ariannol arnyn nhw.

“Byddwn yn cymeradwyo Eduardo dros y llinell derfyn ac yn diolch iddo am ei gefnogaeth a’i ymroddiad i’r achos.”

Llun o ddau blentyn yn edrych ar ddyfais ddigidol

195,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, yn ôl yr ystadegau diweddaraf

Achub y Plant yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i “wneud yn siŵr fod plant ifanc wrth galon pob penderfyniad”