Mae Shane Williams wedi seiclo 736 milltir, dringo 47,491 troedfedd, ac ymweld â 50 o gestyll Cymru mewn ymgais i gipio record byd am ymweld â’r mwyaf o gestyll mewn wythnos, ar gefn beic.
Dechreuodd y daith ar Chwefror 22 yng Ngharreg Cennen, Sir Gaerfyrddin, a daeth i ben wythnos yn ddiweddarach yng Nghastell Dinefwr.
Ar hyd y ffordd, fe wnaeth e ymweld â cestyll ar hyd a lled y wlad, o Fiwmares i Gaerdydd, ac o Hwlffordd i Gas-gwent.
Bydd rhaglen ar S4C nos fory (nos Fercher, Mawrth 31) yn datgelu a oedd ymgais cyn-chwaraewyr rygbi Cymru yn llwyddiannus.
Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar nifer o ymdrechion eraill i gipio recordiau’r byd, o dynnu awyren i dorri coed.
“Wythnos wych ond llafurus!”
“Am wythnos wych ond llafurus! Cefais antur ar drywydd hanes Cymru i geisio gosod record byd newydd,” meddai Shane Williams.
“Un dydd clociais i 125 milltir – record bersonol i mi mewn un diwrnod; dathlais fy mhen-blwydd yn 44 gyda chacen y tu allan i Gastell Harlech; bu’n rhaid i mi ail-wneud graddiannau o 40% pan anghofiais ddechrau fy Ngharmin; mi wnes i fwyta cymaint o Mint Aeros dros yr wythnos, rhaid fy mod wedi torri record y byd am hynny; cwrddais â’r Maer yn Arberth; ac yng Ngwbert cawsom wylio ail hanner y gêm rygbi pan gipiodd Cymru y Goron Driphlyg.
“Yn bennaf oll, cefais fy atgoffa o harddwch syfrdanol y wlad hon. Ond pam, o pam, mae’n rhaid i ni roi ein cestyll ar ben bryniau mor serth?!”.
“Fe wnaeth Shane roi popeth mewn i’r cais record byd hwn, felly rydyn ni’n wir obeithio y bydd o’n llwyddo – gallwch ddarganfod ei ffawd ar S4C ar Fawrth 31,” meddai Rob Light, Cynhyrchydd Gweithredol Orchard, y cwmni sydd wedi cynhyrchu’r rhaglen.
“Mae wedi bod yn wych gweithio gydag S4C a Guinness World Records eto i amlygu brand Cymru ar draws y byd. Rydym yn ddyledus iawn i’r tîm yn Cadw am ein helpu gyda thaith epig Shane, er gwaethaf y ffaith bod y cestyll yn parhau ar gau.”
Ysbrydoli eraill i ymweld â chestyll
“Hoffem longyfarch Shane a thîm Orchard ar yr ymgais wych hon i greu record byd,” meddai Gwydion Griffiths, Pennaeth Marchnata a Thwristiaeth Cadw.
“Mae Cadw yn gyfrifol am 130 o safleoedd hanesyddol anhygoel ledled Cymru ac mae ceisio teithio i 50 o gestyll yng Nghymru, ar gefn beic, o fewn wythnos yn ymdrech anhygoel.
“Gobeithio y bydd yn ysbrydoli eraill i ymweld â’r safleoedd pan fyddwn ni’n ail-agor i’r cyhoedd.”
Mae S4C hefyd wedi llongyfarch Shane Williams ar ei “ymdrech hollol syfrdanol”.
“Mae S4C yn llawn edmygedd ac yn falch o fod wedi gweithio gyda Shane, Cadw, Guinness World Records â Orchard ar yr ymgais wirioneddol arbennig hon i dorri record,”meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.
“Mae’n dod â Chymru, a phopeth sydd gan ein gwlad hardd i’w gynnig – gan gynnwys ein cestyll anhygoel – i gynulleidfaoedd ledled y byd.”
Bydd rhaglen sy’n cynnwys yr holl ymdrechion Cymreig i dorri recordiau byd yn cael ei darlledu nos fory, yna bydd rhaglen arbennig Shane: Torri Record Byd Guiness, ar S4C am 9pm nos Iau, Ebrill 15.