Mae gan sector cyfryngau prifddinas Cymru botensial sylweddol ar gyfer twf yn y dyfodol, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r adroddiad ‘Gyrru twf economaidd drwy weithgareddau clyweledol’ yn edrych ar faint, graddfa a chyfraniad economaidd y sector ffilm a theledu yn rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

Fe ddaeth i’r amlwg fod y sector cyfryngau clyweledol, sy’n cynnwys ffilm, teledu a gemau, wedi dod yn rhan allweddol o’i heconomi, gan greu cyfleoedd gwaith i fwy na 10,000 o bobol.

Caerdydd sydd â’r trydydd clwstwr ffilm a theledu mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain a Manceinion.

Gwerth ariannol aruthrol

Yn ôl yr adroddiad, mae 1,318 o gwmnïau’n weithredol yn sector y cyfryngau clyweledol ym mhrifddinas rhanbarth Caerdydd.

Gyda’i gilydd, cynhyrchodd y cwmnïau hyn gyfanswm trosiant blynyddol o £545m gyda £606m yn rhagor mewn gwerth ychwanegol gros wedi’i gynhyrchu’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Mae’r sector yn cyflogi 4,590 o weithwyr llawn amser yn lleol, gyda 2,898 o swyddi ychwanegol eraill wedi’u creu i gefnogi’r diwydiant.

Mae amcangyfrif hefyd fod 2,813 o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y rhanbarth, ac felly mae mwy na 10,000 o bobol yn cael eu cyflogi trwy’r sector.

Mae’r data cyflogaeth hwn, ynghyd â’i ecosystem greadigol ehangach, wedi ei gynnwys yn Atlas Economi Greadigol newydd Cymru – platfform i arddangos nerth creadigol Cymru.

“Degawd o dwf cryf”

Mae’r gwaith ymchwil wedi’i arwain gan Clwstwr, sef rhaglen ar gyfer arloesedd yn y sector sgrîn ac a gafodd ei llunio gan yr Athro Justin Lewis, Dr Marlen Komorowski a Máté Miklós Fodor.

“Ar ôl degawd o dwf cryf, mae gan Gaerdydd nawr y trydydd clwstwr ffilm a theledu mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ar ôl Llundain a Manceinion,” meddai’r Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr Clwstwr o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

“Yn well fyth, yn ôl llawer o fesurau, de Cymru yw’r clwstwr cyfryngau sydd wedi bod yn perfformio orau y tu allan i Lundain, gydag un o bob wyth swydd a grëwyd yn y Deyrnas Unedig rhwng 2015 a 2018 wedi bod ym mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Yn seiliedig ar ein hamcangyfrifon, gallai cyllid wedi’i dargedu a chymhellion pellach i’r sector lleol i gynyddu cynhyrchiant greu twf economaidd sylweddol a gwneud Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer cynhyrchu ym maes y cyfryngau o fewn y pump i ddeng mlynedd nesaf.

“Yn seiliedig ar ei gryfder lleol, gallai hyn gynhyrchu Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o £255 miliwn a bron i 2,000 o swyddi ychwanegol yn y sector cyfryngau clyweledol.”