Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi llun e-ffit o ddyn maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw yn y Drenewydd yr wythnos ddiwethaf.

Ddydd Mawrth (Mawrth 23) am tua 4:50yh, roedd dynes yn cerdded ar y gamlas rhwng Pump House ac Eglwys Llanllwchaiarn pan wnaeth dyn ymosod arni.

Dywed y Ditectif Arolygydd Andy Davies, sydd yn arwain yr ymchwiliad, fod y tîm yn ddiolchgar am yr holl alwadau a’r wybodaeth hyd yn hyn.

“Rydym wedi cael ymateb da i’r apêl,” meddai.

“Ond rydym ni’n gobeithio y bydd yr e-ffit, yn ogystal â’r manylion mwy penodol am y lleoliad, yn sbarduno cof pobol oedd yn yr ardal ar y pryd.”

Cefndir

Fe wnaeth y dyn gerdded o gyfeiriad Llanllwchaiarn cyn ymosod ar y ddynes, ac yna gadael i gyfeiriad y Drenewydd.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, o gorffolaeth ganolig, yn ei 20au hwyr neu ei 30au cynnar, a thua 5’7″ o daldra.

Roedd yn gwisgo hwdi du â sip, trowsus du, ac esgidiau rhedeg du gyda gwaelodion gwyn.

Roedd e’n siarad ag acen Seisnig, ac roedd ei lais yn arbennig o ddwfn, yn ôl y disgrifiad.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sy’n credu eu bod nhw’n adnabod y dyn, neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai fod o help, i gysylltu â nhw.