Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, wedi dweud wrth golwg360 fod dangos ffilmiau fel Fi Wyt Ti – ffilm sydd wedi’i chreu gan Clecs Media i dynnu sylw at linellau sirol a phroblem gyffuriau yn y gogledd – yn hollbwysig wrth addysgu pobol ifanc am y peryglon.

Fe fydd y ffilm, sydd wedi’i chreu fel rhan o brosiect sydd wedi’i hariannu gan gronfa Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru a thrwy ddefnyddio enillion troseddau, yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.

Daeth y grant o £10,000 ar gyfer y ffilm o gronfa arbennig gafodd ei dosbarthu gan Arfon Jones trwy’r fenter Eich Cymuned, Eich Dewis sydd wedi’i chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT).

Y ffilm

Mae’r ffilm bwerus wedi cael ei lansio i rybuddio plant ysgol o beryglon llinellau masnachu cyffuriau trwy ddarlunio bywydau merched yn eu harddegau a gafodd eu rhwydo yn y fasnach ddieflig.

Mae Fi Wyt Ti wedi cael ei gwneud gan y cyn-heddwas a’r cyfarwyddwr ffilm John Evans mewn arddull nofel graffig neu gomic, ac mi fydd yn cael ei dangos fel rhan o ymgyrch fawr mewn ysgolion ledled Cymru.

Cafodd y ffilm ei gwneud ar gyfer yr elusen Canolfan Sain Golwg Arwyddion o Fae Colwyn, gyda grant o £10,000 gan Arfon Jones, ac roedd yr arian grant yn defnyddio arian a gafodd ei atafaelio gan droseddwyr.

Mae Fi Wyt Ti, sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, wedi’i ffilmio mewn tair iaith – Cymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, gyda dwy ferch yn eu harddegau o ogledd Cymru yn actio’r prif gymeriadau. Y bwriad yw ei dangos mewn ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Cymru, ac ar ben hynny, mae heddluoedd yn Lloegr hefyd wedi dangos diddordeb mawr yn y ffilm.

Bydd y ffilm yn cael ei defnyddio fel rhan o wers arbennig ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd Blwyddyn 8 sydd wedi cael ei datblygu fel rhan o Raglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru gyfan, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel SchoolBeat.

Mae’r ymgyrch Cwlwm Twyll yn ymateb i bryder cynyddol ynghylch y ffordd y mae gangiau llinellau cyffuriau creulon yn cymryd mantais o bobl ifanc.

Mae plant mor ifanc â 12 oed yn cael eu gorfodi i weithredu fel negeswyr cyffuriau gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu defnyddio i wneud y cyswllt cychwynnol.

Mae’r ffilm yn olrhain pa mor hawdd y gall pobl ifanc yn eu harddegau syrthio yn ysglyfaeth i fasnachwyr llinellau cyffuriau a chael eu hunain yn gyflym mewn rhwyd o ddyled, trosedd a thrais ond mae hefyd yn cynnig llwybr i ddioddefwyr allan o’r cylch dieflig.

“Bob blwyddyn, rydan ni’n rhoi nifer o wobrau allan ar draws Gogledd Cymru,” meddai Arfon Jones.

“Y flwyddyn yma, rhoeson ni 21 gwobr allan, maen nhw’n mynd o tua £2,500 i £5,000 ond yn y flwyddyn arbennig yma, rhoeson ni fwy o arian yn y pot oherwydd difrifoldeb y sefyllfa o gwmpas llinellau sirol.

“Mi ddaru y grwp yma ennill y wobr oherwydd eu bod nhw am wneud y ffilm yma yn codi ymwybyddiaeth o linellau sirol a chamdrin plant ar gyfer rhesymau troseddol.”

Y cyfarwyddwr

John Evans, o Fangor, yw pennaeth cyfryngau a chyfathrebu yn y Ganolfan Sain Golwg Arwyddion a rheolwr gyfarwyddwr y partner cynhyrchu Clecs Media.

Mae’n gyn-filwr a bu’n heddwas yng Nghaergybi cyn gadael yr heddlu i astudio ffilm ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ddiweddarach, gweithiodd ym myd teledu ac enillodd wobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS), yn ogystal â chael ei enwebu am wobr BAFTA a Gwobr Cyfryngau Celtaidd.

Mae ei waith wedi ymddangos ar BBC Three ac ar S4C lle tynnodd ei raglen ddogfen gyntaf Cysgod Rhyfel sylw at y problemau oedd yn wynebu pedwar cyn-filwr oedd yn dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma.

“Roedd gynno fo ddiddordeb mewn gwneud y ffilm ac wrth gwrs, roedd gynno fo brofiad o’r county lines fel oedd hi’r adeg yna, ond dim ond ffenomen ddiweddar ydi defnyddio ac ecsbloetio plant i gyflenwi cyffuriau.

“Ond mae’n bwysig fod gynno fo gefndir ac yn fwy na hynny, y ffaith fod o’n blismon, roedd gynno fo ddiddordeb mewn plismona ac mewn cyfraith a threfn.”

Pwysigrwydd addysgu plant

Mae’n dweud mai plant naw i 13 oed yw’r rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael eu tynnu i mewn i linellau sirol.

“Mae plant yn eu harddegau’n rebelio,” meddai.

“Wrth fynd i’r ysgol, maen nhw’n cael eu tynnu i mewn efo grwpiau ac mae rhywun yn gofyn iddyn nhw ddylifro pecyn o gyffuriau, maen nhw’n gwneud hynna ac ar y ffordd, maen nhw’n cael rhywun yn ymosod arnyn nhw ac yn dwyn cyffuriau.

“Wedyn mae arnyn nhw bres i’r cyflenwyr ac maen nhw’n cael eu bwcio ac yn cael eu cadw i dalu’r pres yma’n ôl.

“Dyna un o’r ffyrdd mae county lines yn gweithio, dyna sut maen nhw’n cadw gafael ar y plant a’r bobol ifanc yma.”

… ac addysgu yn hytrach na chosbi’n bwysig

Mae Arfon Jones o’r farn fod addysgu plant a phobol ifanc am y peryglon, felly, yn bwysicach na’u cosbi o ystyried y ffordd y gallen nhw gael eu trin a dod yn ddioddefwyr eu hunain yn sgil y llinellau sirol.

“Mae atal troseddau yn rhan o ethos Heddlu Gogledd Cymru, felly rydan ni’n mynd i’r afael efo’r ffaith fod lot o droseddwyr hefyd yn ddioddefwyr yn y llinellau sirol.

“Pan ydan ni’n dal y plant a’r bobol ifanc yma am gyflenwi cyffuriau, un o’r cwestiynau mwya’ ydi ydyn ni’n eu trin nhw fel troseddwyr, ynteu ydan ni’n eu trin nhw fel dioddefwyr sydd wedi cael eu hecsbloetio?

“Dyna be’ ydyn nhw yn aml iawn, ac mae hynny’n benderfyniad anodd iawn i Wasanaeth Erlyn y Goron, sut i ddelio hefo pobol ifanc.

“Does ’na neb isio’u criminaleiddio nhw os oes ’na ffordd arall o gael nhw ar y trywydd iawn.”

Mae’n dweud y daw’n amlwg yn gyflym iawn a fydd modd dilyn camau o’r fath yn hytrach na’u cosbi.

“Os ydi’r plant yn barod i gydweithredu efo’r awdurdodau a gwasanaethau cymdeithasol plant a’r rhai sy’n barod i ymyrryd ar eu rhan nhw i wella’u sefyllfa nhw, ac os ydyn nhw’n barod i gydweithio…

“Mae ’na rai wedi mynd yn rhy bell a wnawn nhw ddim cydweithredu, wel yn yr achos yna, does ’na ddim dewis gan Wasanaeth Erlyn y Goron ond i’w herlyn nhw.

“Os mae ’na siawns i’w cael nhw allan o’r cylch dieflig yma, mi wnawn ni.”

A dyna lle mae gwyliau fel Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin yn dod yn bwysig, meddai.

“Mae’n bwysig dros ben bo ni’n cael y neges allan ar draws Cymru gyfan.

“Mae o’n fater cymdeithasol o bwys.

“Mae ’na ddwsinau o blant a phobol ifanc yn cael eu hecsbloetio’n ddyddiol yng Nghymru ac yn trafaelio i mewn i Gymru i droseddu.”

  • Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Mai 17-20.