Mae perchennog hostel Gallt y Glyn a bwyty Pitsa a Pheint yn Llanberis wedi dweud wrth golwg360 fod “lot o wrthdaro y tu mewn” iddi wrth feddwl am groesawu ymwelwyr yno unwaith eto wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio.
Bydd rhaglen ddogfen newydd a fydd yn ein tywys o amgylch Parc Cenedlaethol Eryri, gan roi darlun o’r parc drwy lygaid unigolion sy’n byw ac yn gweithio yno, yn cael ei darlledu ar S4C nos Iau (Ebrill 1).
Mae sawl problem wedi dod i’r amlwg wrth droed yr Wyddfa yn Llanberis, gan gynnwys trigolion yn teimlo’n anniogel yn eu pentref.
Bob blwyddyn mae tua 600,000 o bobol yn teithio i fyny’r Wyddfa, gyda’r niferoedd wedi codi’n aruthrol dros y degawd diwethaf.
Ond, bu’n rhaid i Barc Cenedlaethol Eryri wynebu heriau a rhwystrau newydd yn sgil y pandemig.
Mae’r heriau’n parhau hyd heddiw, a bydd y rhaglen ddogfen yn tywys gwylwyr o gwmpas y parc gan roi darlun go wahanol o’r ardal.
“Mae ‘na gymaint o wrthdaro tu mewn i fi achos, yn amlwg, mae’r busnes angen croesawu twristiaid yn ôl, mae’r diwydiant angen croesawu twristiaid yn ôl, a dw i’n meddwl bod y staff a fi’n hun yn fan hyn angen croesawu twristiaid yn ôl,” meddai Elin Aaron, perchennog hostel Gallt y Glyn a bwyty Pitsa a Pheint yn Llanberis, wrth golwg360.
“Ond, yn amlwg, hefyd, rydym ni eisiau cadw pawb yn ddiogel ac rydym ni eisiau bod yn ddiogel ein hunain.
“Mae yna lot o wrthdaro yn y ffordd dw i’n teimlo. Ond, dw i’n meddwl mae’n rhaid i fywyd symud yn ei flaen, yn amlwg mae’n rhaid gwneud hynny’n ofalus.
“Ond, fedar neb gario ymlaen fel mae pethau rwan.
“Mae’n anodd dweud beth fydd pobol yn ei feddwl tan fyddwn ni wedi agor, a gallu gweld y teimlad rhwng pobol.
“Mae yna lot o’n cwsmeriaid ni’n dweud eu bod nhw’n edrych ymlaen at ddod yn ôl mewn, ond dydy hynny ddim yn dweud y gwnawn nhw ddod yn ôl mewn yn syth fyddwn ni’n cael ailagor.
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo cyntaf lacio ym mis Gorffennaf 2020, a phobol yn cael teithio unwaith eto, roedd Helen Pye, Pennaeth Ymgysylltu Parc Cenedlaethol Eryri, yn paratoi at yr ailagor.
“Mae o bach fel aros am storm, a ti ddim yn gwybod os mae’r stori yn mynd i gyrraedd neu beidio, a’r oll fedri ‘di wneud ydi paratoi ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau.”
Yn fuan ar ôl i’r Parc Cenedlaethol ailagor, roedd rhesi di-ben-draw o geir yn parcio’n anghyfreithlon a pheryglus ym Mhen-y-Pass gyda’r meysydd parcio’n llawn am dri’r bore.
“Peryg y bydd y sefyllfa’n waeth eleni”
Er bod tensiynau rhwng twristiaid a thrigolion Eryri wedi bod ers blynyddoedd, roedd y teimladau’n amlycach y llynedd.
“Dw i’n meddwl bod yna fwy o bobol yma llynedd, yr un fath â phob ardal dwristaidd ym Mhrydain, achos bod pobol ddim yn mynd dramor,” meddai Elin Aaron.
“Ac mae’n beryg o fod yn waeth eleni, mewn un ffordd, achos llynedd roedd pobol yn cael mynd dramor tra, ar y funud, dydi pobol ddim yn cael.
“Llynedd, roedd y rhai nad oedd mor bryderus am bethau yn mynd dramor, ond mae’r rhai hynny i gyd yn chwilio am rywle i fynd ar wyliau ym Mhrydain ar hyn o bryd.
“Dw i’n gwybod fod y Parc Cenedlaethol a’r Cyngor yn meddwl lot mwy am y parcio a phethau felly rŵan cyn bod o’n digwydd. Llynedd fe wnaethon nhw ymateb yn dda iawn ar ôl iddo fo ddigwydd, ond o leiaf mae cynlluniau fel hynny’n cael eu gwneud cyn iddo fo ddigwydd eleni sy’n beth da.
“Fedra ni ond ymateb, a gweld sut eith hi. Dw i’n meddwl ei bod hi’n amhosib i neb ddweud sut mae pethau am fynd.
“Mae’n ‘nheulu i’n byw yn yr ardal yma, a dw i ddim eisiau peryglu neb. Mae o i gyd yn gymhleth, erbyn hyn, dw i’n meddwl mai peidio meddwl gormod am y peth ydi’r unig ffordd fedra i gopio efo fo.”
Rhagweld colli’r gymuned mewn 20 mlynedd
Pentref arall sy’n denu nifer fawr iawn o dwristiaid yn flynyddol yw Beddgelert, ac mae Erynne Watson, un o drigolion y pentref, wedi gweld effaith y niferoedd ar ei phlant ifanc.
“Dydyn nhw ddim isio dod allan o’r tŷ i’r pentref,” meddai.
“Rydan ni wedi trio dod i lawr yma ac roedd un o fy mhlant bron iawn a chael panic attack achos doedd na neb yn cadw’r 2 fetr.
“Dydyn nhw ddim yn gweld bod o’n deg – maen nhw isio dod i lawr i nofio yn yr afon a dydyn nhw ddim yn gallu,.”
Mae rhai yn cwestiynu faint o fudd mae’r gymuned leol yn ei gael o fasnach dwristiaeth erbyn hyn, wrth i nifer aros mewn tai gwyliau a phrynu bwyd cyn cyrraedd.
“Dw i’n gweld mewn 20 mlynedd y bydd y gymuned wedi’i cholli,” meddai wedyn.
Croeso Nôl? ar S4C am 9pm nos Iau 1 Ebrill