George Kerevan, y cyn-aelod seneddol, yw’r diweddaraf i adael yr SNP er mwyn ymuno â phlaid newydd Alex Salmond, Alba.
Mae e’n un o nifer o aelodau’r felin drafod Common Weal sydd wedi symud o’r naill blaid i’r llall, a’r trydydd aelod seneddol neu gyn-aelod seneddol i adael yr SNP am y blaid newydd a gafodd ei lansio’r wythnos ddiwethaf.
Mae cyn-aelod seneddol Dwyrain Lothian yn ymuno â Neale Hanvey a Kenny MacAskill, dau aelod seneddol yn San Steffan.
Mae Craig Berry, sylfaenydd Common Weal, a Lynne Anderson, cydlynydd Canolbarth yr Alban, hefyd wedi symud at Alba.
Maen nhw’n dweud bod y blaid yn cynnig “rheswm i fod yn obeithiol”.
Dim modd diwygio’r SNP
Wrth gyhoeddi eu hymadawiadau, dywedodd y tri nad ydyn nhw’n credu bod modd diwygio’r SNP yn ei ffurf bresennol wrth iddyn nhw honni ei bod hi’n symud ymhellach i’r dde ar faterion economaidd a llesteirio democratiaeth fewnol.
Maen nhw’n dweud nad “ar chwarae bach” y gwnaethon nhw’r penderfyniad a bod “pleidiau gwleidyddol torfol newydd yn anodd i’w creu’n llwyddiannus”.
Mae Alex Salmond wedi eu croesawu i Alba, gan ddweud eu bod nhw’n dod â “syniadau positif, adeiladol gyda nhw”.
Dydy hi ddim yn glir eto a yw George Kerevan am sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad ym mis Mai neu a fydd e’n ceisio am swydd o fewn y blaid.