Mae tîm Casgliad Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales, wedi’i ddewis i gynhyrchu prosiect ar gyfer Festival UK 2022.

Cymerodd 30 tîm ar draws y Deyrnas Unedig ran mewn proses ymchwil a datblygu i ail-greu gŵyl creadigrwydd, ac yn dilyn proses asesu mae deg tîm creadigol wedi cael eu comisiynu i gynhyrchu prosiectau ar gyfer yr ŵyl.

Un o’r deg tîm yw Casgliad Cymru, a fydd yn cynhyrchu “prosiect cydweithredol, cynhwysol, fydd yn sylfaenol Gymreig wrth ei wraidd ac yn fyd-eang yn ei weledigaeth.”

Gŵyl ddadleuol

Bwriad Festival UK 2022 yw arddangos creadigrwydd y Deyrnas Unedig yn fyd-eang yn sgil Brexit.

Mae’r prosiectau yn cael eu datblygu gan bobol greadigol o feysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau, a mathemateg, ac yn ôl Prif Swyddog Creadigol yr ŵyl y bwriad yw bod yn “agored, yn wreiddiol, ac optimistaidd”.

Er hynny, mae’r ŵyl yn un ddadleuol ac yn hollti barn – yn bennaf oherwydd ei chysylltiadau â Brexit, ond hefyd y gost, sef oddeutu £120 miliwn.

Enw dros dro yw’r Festival UK 2022, ac mae’n debyg y bydd yr enw’n newid erbyn diwedd y flwyddyn.

“Arddangos cryfderau Cymru i’r byd”

Mae Tîm Creadigol Casgliad Cymru yn gydweithrediad rhwng nifer o unigolion o ddisgyblaethau a mudiadau yng Nghymru, gan gynnwys y Frân Wen, Y Ganolfan Technoleg Amgen, a Chelfyddydau Anabledd Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales.

Un pwrpas cyffredin sydd ganddynt yw “ymrwymiad i gynhwysiad radical”, ac ysbrydoliaeth a sylfaen y prosiect yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

“Ein hysbrydoliaeth a’n sylfaen trwy gydol ein Hymchwil a Datblygu fu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – rhodd fwyaf Cymru i’r byd: darn o ddeddfwriaeth sy’n uchel ei pharch yn fyd-eang sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’r presennol trwy flaenoriaethu lles a hawliau ein disgynyddion,” meddai’r tîm.

“Wedi ein hysbrydoli gan gynhwysiad radical y ddeddf hon, gwnaethom ddefnyddio rhwydweithiau ein tîm i wrando ar safbwyntiau sydd mor aml yn cael eu heithrio neu eu hanwybyddu. Mae cysyniad ein prosiect wedi’i lunio gan ddeinameg lleisiau radical Cymru gyfoes.”

Yn ôl y tîm, eu nod yw cynhyrchu “profiad diwylliannol newydd bythgofiadwy – wedi’i gyd-greu a’i gyd-ddylunio gyda chymunedau ledled Cymru – ac yn hygyrch i bawb.”

Mae’r tîm wedi ymrwymo eu hunain i ddylunio prosiect a fydd yn creu gwaith i weithwyr llawrydd creadigol, y sector creadigol ehangach, ac i leoliadau penodol yng Nghymru.

“Bydd ein prosiect yn arddangos cryfderau Cymru i’r byd – ein cymunedau bywiog, cydnerth, ein talent greadigol a chynhyrchu ffilm a theledu eithriadol, ein tirluniau dramatig syfrdanol a threfi a dinasoedd bywiog, ein harbrofi creadigol mewn technoleg ymdrochol a’n perfformiadau safle-benodol uchel eu parch yn fyd-eang,” dywedant.

“Parchu pryderon”

Mae sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cwestiynu penderfyniad National Theatre Wales, a’r tîm, i wneud cais am gomisiwn – o ystyried cysylltiadau’r ŵyl â dathlu Brexit.

Meddai Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales:

“Rydym yn gwrando’n ofalus iawn ar y trafodaethau a’r dadleuon ar draws ein sector yn dilyn cyhoeddiad y 10 tîm ddoe ac yn parchu’r pryderon a allai fod gan rai oherwydd tarddiad yr ŵyl hon.

“Mae ein profiad o’r broses Festival UK 2022 hyd yma wedi bod yn gwbl agored ac annibynnol, fel unrhyw raglen arall ar raddfa fawr a ariennir gan arian cyhoeddus, gyda’r brîff i fod yn radical ac yn arloesol yn ein ffordd o feddwl.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn gwneud gwahaniaeth i Gymru, a dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr, cymunedau a phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod y prosiect hwn yn datgloi cyfleoedd i’r rhai sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig.”

Holodd golwg360 ambell gyfranogwr, ond nid oeddent am wneud sylw.