Mae Morgan Elwy yn wyneb sy’n gyfarwydd ar y Sîn Roc Gymraeg, sydd hefyd wedi cael ei alw yn “the Welsh Brian Cox”, ac ef enillodd Cân i Gymru 2021 yn ddiweddar wrth gwrs.

Ers blynyddoedd lawer mae wedi perfformio yn y band Trŵbz gyda’i gariad, Mared Williams, a ddaeth yn ail yn Cân i Gymru 2018 a 2019.

Ond ddechrau’r mis hwn fe aeth Morgan un yn well, gan ennill calon y genedl gyda sain bachog ‘Bach o Hwne’.