Un o arwyr y byd gwleidyddol a chanu pop yng Nghymru yw gwestai’r golofn yr wythnos hon.

Ar ôl ymuno â Phlaid Cymru yn 14 oed, bu ar siwrnai gydol oes yn ymgyrchu dros Gymru a’i hiaith. Astudiodd Bensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn y 1960au bu’n ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith a dod yn un o’i harweinwyr amlycaf.

Sefydlodd gwmni recordiau Sain gyda Huw Jones, ac mae’n enwog am ganu rhai o anthemau gorau’r genedl fel ‘Cerddwn Ymlaen’ ac ‘Yma o Hyd’.