Wedi ei fagu yng Ngorseinon, mae Gohebydd Iechyd 42 oed BBC Cymru yn byw ym Mhenarth gyda’i wraig, Elin, a’i blant, Ioan, sy’n saith, a Lisa, sy’n bump…

Sut wnaethoch chi gychwyn newyddiadura?

Fe es i i’r coleg yng Nghaergrawnt i astudio Meddygaeth… ond ar ôl rhyw flwyddyn yn y coleg, doeddwn i ddim cweit yn siwr os oeddwn i moyn bod yn ddoctor, felly wnes i newid i astudio Gwleidyddiaeth…