Cymru 1–0 Gweriniaeth Tsiec                                                       

Roedd mynydd o beniad gan Dan James yn ddigon i Gymru wrth iddynt guro’r Weriniaeth Tsiec yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Gyda’r ddau dîm i lawr i ddeg dyn, bu’n rhaid aros tan ddeg munud o’r diwedd am unig gôl y gêm, ond am gôl gan Dan bach!

Colli un ac ennill un yw record Cymru yng ngrŵp E bellach yn dilyn dechrau digon derbyniol i’w hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y byd 2022.

Y tîm

Roedd un ar ddeg newid i’r tîm a gafodd y fuddugoliaeth yn erbyn Mecsico nos Sadwrn wrth i Rob Page gadw ffydd gyda’r tîm a chwaraeodd y mwyafrif o’r gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Fercher.

Joe Morrell yn lle Joe Allen a oedd yr unig newid i’r tîm hwnnw oherwydd anaf i Pirlo’r Preseli.

Ar ôl perswadio St. Pauli i ryddhau James Lawrence ar gyfer y gêm, nid oedd disgwyl dim newid yn yr amddiffyn ond roedd sawl un yn disgwyl i Wayne Hennessey gael ei ffafrio dros Danny Ward yn y gôl. Aros gyda Ward a wnaeth Page serch hynny er gwaethaf 90 munud di lychwin Hennessey yn erbyn Mecsico.

Yr unig benderfyniad mawr arall a oedd y dewis rhwng Harry Wilson neu Kieffer Moore yn yr ymosod. Parhau gydag arbrawf y ‘ffug naw’ a wnaeth Page gan adael y dyn mawr ar y fainc.

Harry Wilson – y ‘ffug naw’

Hanner anodd

Cafodd Cymru hanner cyntaf anodd wrth i’r ymwelwyr fwynhau llawer o feddiant a chwarae pêl droed digon taclus.

Disgynnodd eu dau gyfle gorau Jakub Jankto ond crymanodd y cyntaf heibio’r postyn cyn taro’r ail i’r rhwyd ochr.

Cymru a Gareth Bale a gafodd gyfle gorau’r hanner cyntaf serch hynny, ond yn dilyn gwaith creu da gan Neco Williams ar y chwith fe anelodd capten Cymru ei foli o chwe llath yn rhy agos at Tomas Vaclik ac ymatebodd y gôl-geidwad yn gyflym i’w hatal.

Trobwynt

Daeth trobwynt cyntaf y gêm yn gynnar yn yr ail hanner gyda cherdyn coch i’r ymwelwyr. Nid oedd gan y dyfarnwr lawer o ddewis wedi i’r blaenwr tal, Patrik Schick roi hergwd i wep Connor Roberts. Cafodd Roberts gerdyn melyn yn yr un digwyddiad er nad oedd hi’n amlwg iawn pam.

Mwynhaodd Cymru fwy o feddiant wedi hynny ac fe newidiodd Page siâp y tîm i chwarae gyda phedwar yn y cefn.

Roedd yr ymwelwyr yn beryglus o hyd ac roedd angen tacl funud olaf bwysig gan James Lawrence i atal gôl sicr toc cyn yr awr ac achub embaras llwyr i Ward yn dilyn penderfyniad gwael iawn gan y gôl-geidwad.

Danny Ward yn gwneud llanast cyn i James Lawrence ei achub

Ac roedd hi’n ddeg yn erbyn deg ar gyfer y chwarter awr olaf. Cofio’r cerdyn melyn hwnnw i Roberts? Cafodd un arall am ddefnyddio’i ben elin wrth geisio ennill peniad yn erbyn Tomas Soucek ac roedd y dyfarnwr yn ddigon parod i’w anfon am gawod gynnar.

DJ yn ein hachub rhag tor calon!

Gellir fod wedi maddau i’r ddau dîm am fodloni ar bwynt wedi hynny ond mynd amdani a wnaeth y ddau gan roi diweddglo cyffrous i’r gêm.

Cafodd James ei atal gan Vaclik wrth iddo geisio mynd o amgylch y golwr gydag un cyfle, y math o gyfle y byddai rhywun yn disgwyl gweld James yn sgorio gydag ef.

Gareth Bale yn croesi i Dan James

Ni ellir dweud hynny am ei gynnig nesaf! Nid yw’r asgellwr bach pum troedfedd saith modfedd yn enwog am sgorio â’i ben ond pan roddodd Bale un ar blât iddo gyda chroesiad gwych ddeg munud o’r diwedd, fe gododd Dan fel eog i’w phenio heibio i gefn y rhwyd.

Neco Williams a James Lawrence yn dathlu gôl Dan James

Rodon yn sefyll yn y bwlch

Gallai’r Weriniaeth Tsiec fod wedi cipio pwynt yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond gwnaeth Joe Rodon yn wych i hyrddio’i gorff i lwybr ergyd gadarn Ondrej Celustka!

Fe fyddai’r ergyd wedi curo Ward heb os felly roedd gwaith amddiffynnol Rodon yn holl bwysig ac yr un mor werthfawr â gôl James yn y pen arall.

Mae’r canlyniad yn gadael Cymru yn drydydd yng ngrŵp E ond maent wedi chwarae gêm yn llai na Gwlad Belg a’r Weriniaeth Tsiec. Bydd yn rhaid aros tan fis Medi am y gêm nesaf, oddi cartref ym Melarws a gartref yn erbyn Estonia. Fe all Cymru fod yn bencampwyr Ewrop erbyn hynny!

.

Cymru

Tîm: Ward, Mepham (Moore 56’), Rodon, J. Lawrence, C. Roberts, N. Williams, Morrell, Ampadu, Bale, Wilson (J. Williams 76’), James

Gôl: James 81’

Cardiau Melyn: C. Roberts 48’, 77’, J. Lawrence 54’

Cerdyn Coch: C. Roberts 77’

.

Gwerinaeth Tsiec

Tîm: Vaclik, Coufal (Vydra 87’), Kudela (Barak 87’), Celustka, Boril, Holes (Krmencik 53’), Soucek, Provod (Kaderabek 82’), Darida, Jankto (Masopust 82’), Schick

Cerdyn Melyn: Jankto 62’

Cerdyn Coch: Schick 48’