Mae Gareth Bale, capten tîm pêl-droed Cymru, wedi canmol “calon” y tîm a’r rheolwr dros dro Robert Page yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 dros y Weriniaeth Tsiec yng Nghaerdydd yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 30).
Sgoriodd Daniel James chwip o gôl â’i ben naw munud cyn diwedd y gêm yn dilyn croesiad rhagorol gan Bale i sicrhau’r triphwynt.
Roedd cerdyn coch yr un i Connor Roberts a Patrik Schick.
“Roedd yn ganlyniad enfawr,” meddai Bale wrth Sky Sports.
“Wnaethon ni ddim cael y dechreuad gorau yn erbyn Gwlad Belg, felly roedd yn eithriadol o bwysig ein bod ni’n cael y fuddugoliaeth.
“Wnaethon ni ddangos cryn dipyn o galon a dyhead i ymateb i dîm corfforol iawn.”
“Mae angen i ni ennill gemau er mwyn cymhwyso ac rydyn ni eisiau ennill pob gêm, dydy pêl-droed ddim bob tro yn mynd y ffordd rydych chi’n disgwyl iddi fynd.”
Canmol y rheolwr dros dro
Mae Robert Page, rheolwr dros dro Cymru, wedi arwain y tîm i bum buddugoliaeth gystadleuol yn olynol am y tro cyntaf ers i Terry Yorath gyflawni’r gamp yn 1993.
Mae e yng ngofal y tîm yn absenoldeb Ryan Giggs, sydd ar fechnïaeth tan Fai 1 ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
“Mae Pagey wedi cadw ein ffocws er gwaetha’r hyn sy’n digwydd oddi ar y cae,” meddai’r capten.
“Y fuddugoliaeth oedd yr union beth oedd ei hangen arnon ni.
“Roedd ffocws gyda ni ac fe wnaethon ni gadw at ein cynllun ar gyfer y gêm a chael y fuddugoliaeth.”