Mae amddiffynnwr Reading, Bethan Roberts, wedi cael ei galwad cyntaf i garfan Cymru – a hynny yng ngharfan gyntaf y rheolwr newydd, Gemma Grainger.

Mae Grainger wedi enwi carfan gref o 26 ar gyfer gemau cyfeillgar cartref yn erbyn Canada ar 9 Ebrill, a Denmarc bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Dywedodd Grainger, cyn brif hyfforddwr timau ieuenctid Lloegr, sydd wedi bod yn ei swydd gyda Chymru am lai na phythefnos:

“Gyda’r garfan angen cael ei chyflwyno a minnau dim ond dau ddiwrnod i mewn i’r swydd, roedd yn bwysig iawn i mi ddefnyddio’r staff presennol, o wersyll mis Chwefror, i ddewis y garfan.

“Rydyn ni eisiau chwarae’r gwledydd gorau a does dim gwell prawf wrth i ni geisio paratoi ar gyfer ymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd a’r pedair blynedd nesaf.”

Mae ymosodwr Lerpwl, Ceri Holland, hefyd yn cael ei galwad lawn gyntaf ar ôl ymuno â’r garfan hanner ffordd drwy’r gwersyll hyfforddi diwethaf.

Y garfan

SL O’Sullivan (Caerdydd), O Clark (Coventry United), P Soper (Plymouth), R Roberts (Lerpwl), G Evans (Bristol City), M Francis-Jones (Caerdydd), C Estcourt (London Bees), H Ladd (Man Utd), J Green (Tottenham), Elise Hughes (Blackburn, ar fenthyg gan Everton), A Filbey (Celtic, ar fenthyg gan Tottenham), S Ingle (Chelsea), A James (Reading), J Fishlock (Reading, ar fenthyg gan OL Reign), C Jones (Man Utd) , K Green (Brighton), N Harding (Reading), R Rowe (Reading), H Ward (Watford), L Woodham (Reading), G Walters (Blackburn), F Morgan (Crystal Palace), E Morgan (Tottenham), C Holland (Lerpwl), B Roberts (Reading), K Nolan (Caerdydd).