Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud na fydd Cwpan JD Cymru yn cael ei chynnal ar gyfer tymor 2020/21.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Fwrdd Cenedlaethol y Gwpan oherwydd y pandemig.

Ar hyn o bryd, mae Rhybudd Lefel 4 mewn grym yng Nghymru, sy’n golygu mai dim ond clybiau gyda ‘Statws Elît’ sy’n cael chwarae.

Yn dilyn trafodaethau ac ymgyrchu gan y Gymdeithas Bêl-droed, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu nifer y bobol fydd yn cael dod at ei gilydd y tu mewn a’r tu allan o dan Rybudd Lefel 2.

O dan Rybudd Lefel 2, bydd 50 o bobol yn cael cyfarfod tu allan yn hytrach na 30, a 30 yn cael cyfarfod tu mewn yn hytrach na 15.

Yn ôl y Gymdeithas Bêl-droed mae hyn yn ddatblygiad sylweddol er mwyn dychwelyd at gystadlaethau uwch, ac maen nhw’n adolygu’r effaith y bydd y newid yma yn ei chael ar yr amserlen ar gyfer ailddechrau cynnal gemau pêl-droed.

Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, ni fydd modd cwblhau’r Gwpan y tymor hwn.

Trefniadau amgen

Derbyniodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhad gan UEFA ddydd Llun (Mawrth 29), os na fydd hi’n bosib penderfynu enillydd cwpan, y bydd y clwb sydd uchaf yn y gynghrair, sydd heb gymhwyso, yn gymwys ar gyfer cystadlaethau clwb 2021/22 UEFA.

Felly, bydd y tîm sydd yn y trydydd safle yng Nghynghrair Premier JD Cymru yn cymhwyso’n syth i Rownd Gymhwyso yr UEFA Europa Conference League.

Bydd y timau yn y 4ydd a’r 7fed safle yn cystadlu mewn gemau ail gyfle ar gyfer ennill eu lle yn yr UEFA Europa Conference League.

Yn ogystal, penderfynodd Bwrdd Cenedlaethol y Gwpan na fyddai Cwpan Menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru, na Chwpan Futsal y Gymdeithas yn mynd eu blaenau ‘chwaith.

Bydd Cwpan Merched y Gymdeithas yn mynd ei blaen gan fod gweithgareddau i blant dan oruchwyliaeth wedi’u caniatáu. Bydd y rownd gyntaf yn digwydd ar Ebrill 11.