Mae Joe Allen, chwaraewr canol cae Cymru, yn wynebu ras i fod yn ffit ar gyfer yr Ewros yr haf hwn.

Bu’n rhaid i Allen adael y maes o fewn chwe munud i ddechrau gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Gwlad Belg ddydd Mercher diwethaf, gem a gollwyd 3-1.

Dyna oedd ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ers mis Tachwedd 2019.

Bu i Allen, sy’n 31 oed, dorri gwaell y ffer (Achilles tendon) fis Mawrth diwethaf ac ni ddychwelodd tan Ddydd San Steffan. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi chwarae 18 gem yn y Bencampwriaeth i Stoke.

“Mae Joe wedi cael anaf i groth y goes (calf) a llinyn y gar (hamstring) – y naill ochr a’r llall i’r pen-glin,” dywedodd rheolwr y Potters, Michael O’Neill, wrth y Stoke Sentinel.

“Mae ar yr ochr arall i’r man lle cafodd ei anaf Achilles ac mae’n debyg mai llwytho trwm sy’n gyfrifol… ac yn anffodus, mae’r anaf ychydig yn fwy difrifol nag yr oeddem yn ei feddwl i ddechrau.”

Ewro 2020 yn y fantol?

Mae Cymru i fod i ddechrau eu hymgyrch Ewro 2020 yn erbyn y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin. Mae Cymru yn Grŵp A gyda’r Swistir, Twrci a’r Eidal.

Am anaf Allen, ychwanegodd O’Neill: “Daeth allan o’r gêm yn gynnar, ar ôl chwe munud, felly roedden ni’n gobeithio bod hynny’n golygu nad oedd wedi gwneud gormod o ddifrod.

“Ond, gyda sganiau a chael ei asesu’n feddygol, yn anffodus mae’r anaf yn fwy difrifol nag yr oeddem yn ei feddwl ac nid yw’n rhywbeth lle gall fod yn ôl yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Rwy’n credu y bydd yn agos iawn o ran a fyddwn yn ei gael yn ôl cyn diwedd y tymor. Mae’n amlwg y byddem yn hoffi i hynny digwydd.

“Mae’n amlwg fod gan Joe y targed o chwarae yn y rowndiau terfynol i Gymru yn yr haf, sy’n beth enfawr iddo, ac rydym am iddo gael y cyfle hwnnw hefyd.

“Mae’n rhaid i ni ei reoli ychydig – a gweld sut mae ei gynnydd yn datblygu rhwng nawr a diwedd y tymor.

“Yn anffodus, un o ganlyniadau anaf hirdymor yw eich bod ychydig yn fwy tebygol o gael anafiadau mewn mannau eraill hefyd.”