Ar drothwy cychwyn y tymor criced, Alun Rhys Chivers ay’n cael cip ar obeithion Morgannwg…

Mae capten tîm criced Morgannwg yn disgwyl gêm anodd i ddechrau’r tymor newydd, wrth iddyn nhw deithio i herio Swydd Efrog ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Headingley ymhen wythnos. Ond ar yr un pryd, mae Chris Cooke yn gobeithio y bydd Gerddi Sophia yn gadarnle i’r tîm y tymor hwn, ac y bydd modd i gefnogwyr fod yn y stadiwm am rai gemau eleni.