Mae gan Geraint Rhys lwmp o lais canu, gall ddyrnu dryms gyda’r gorau, mae yn dipyn o ddewin ar y gitâr… ac mae un o’i ganeuon wedi ei mwynhau 100,000 o weithiau draw yn Sbaen…
Dychmygwch y Manic Street Preachers ifanc – pan oedden nhw yn chwarae roc trwm ffyrnig a blin – yn recordio anthem Annibyniaeth i Gymru, ac mae ganddo chi ryw syniad o naws ‘Who Are You?’
Anodd credu bod y gân pync-roc politicaidd wedi cael ei recordio yn ’stafell wely Geraint Rhys, gyda’r canwr yn chwarae’r drymiau, y gitâr, a’r bass arni.
Mae gan ‘Who Are You?’ bopeth – llais canu angerddol sy’n berffaith i fynegi rhwystredigaeth gyda “lladron” a “chelwyddgwn” San Steffan; riff gitâr can-milltir-yr-awr i ddal ein sylw ar gychwyn y gân, ac yna solo gitâr yn nes ymlaen sy’n llwyddo i wefreiddio heb fynd dros ben llestri; ac mae’r drymio yn swnio mor gyntefig o gadarn, yn rhywbeth o Oes yr Arth a’r Blaidd.
Mae’r boi sydd wedi creu’r cyfan wedi manteisio ar y cyfnod clo i ddysgu sut i recordio gartref.
Ac er nad yw yn un o wynebau amlyca’r Sîn Roc Gymraeg, mae Geraint Rhys wrthi ers blynyddoedd yn creu amrywiaeth trawiadol o ganeuon reggae, electro-roc a baledi tyner acwstig megis ‘Ble Mae’r Haul?’.
“Wnes i ryddhau trac cyntaf fi obwyti saith mlynedd yn ôl, ‘Ble Mae’r Haul?’,” eglura’r cerddor 30 oed o Abertawe.
“Ac ers hynny, dw i jesd wedi bod yn rhyddhau stwff trwy gydol y blynyddoedd.
“Mae stwff fi yn cael ei chwarae ar Radio Cymru, Radio Wales a [BBC Radio] 6 Music, a dw i wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd.
“Ac mae stwff fi yn tueddu i fod yn wleidyddol – dim bob amser. Ond rydw i wedi rhyddhau stwff sydd yn wleidyddol, ond sydd ddim yn cael ei chwarae wedyn ar y radio oherwydd maen nhw yn eithaf strict am beidio chwarae’r stwff mwy gwleidyddol.”
Yn rhyfedd ddigon, un trac na chafodd groeso gan orsafoedd Cymreig a Phrydeinig, meddai Geraint Rhys, oedd ei gân yn cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia yn Sbaen, adeg y refferendwm cythryblus ar annibyniaeth yn 2017.
Ond fe gafodd ‘Visca La Terra’ groeso cynnes gan y Catalaniaid.
“Roedd honna am y Catalan Independence Movement, a wnaeth honna yn eithaf da draw yng Nghatalwnia,” eglura’r canwr, “ac roedden nhw yn chwarae hi ar y radio a stwff, a wnaeth [y fideo o’r gân] gael dros 100,000 o views ar YouTube.
“A wnaethon ni ryddhau e jesd cyn y refferendwm yn 2017, ac aetho i allan yna i chwarae gigs a stwff. Mae gyda fi ffrindiau draw fan’na.”
Ac ar y gân Gymraeg ‘Ta ta Tata’ mae Geraint Rhys yn canu am helbulon gweithfeydd dur Port Talbot.
“Mae honna am Bort Talbot a sut mor fregus yw’r gweithlu dur, a gan bo fi’n dod o Abertawe mae e’n agos.”
Er bod degau o filoedd o bobol wedi gwylio’r fideo ar gyfer ‘Ta ta Tata’ ar safle facebook Geraint Rhys, mae’r canwr yn dweud nad ydy’r gorsafoedd radio wedi ei chwarae.
“Pan rydw i’n rhyddhau stwff sydd ddim yn wleidyddol, yn aml mae yn cael ei chwarae ar BBC Radio Wales neu BBC Cymru, ond os yw e’n wleidyddol, dydyn nhw ddim yn hoffi fe.”
Rocio dros Gymru!
Yn ei ugeiniau cynnar fe ddysgodd Geraint Rhys ei hun i daro’r dryms, a chwarae mewn sawl band yn ardal Abertawe.
Yn ddiweddarach fe gododd y gitâr i fyny ac mae yn ffretfeistr medrus.
Ond ei lais canu pwerus yw ei brif arf – mae yn gallu swnio fel Bob Marley ar ei ganeuon reggae, fel Bruce Dickinson o Iron Maiden ar y caneuon trymach, ac fel Paolo Nutini ar y baledi acwstig.
Ar y fideo i fynd gyda’r gân ‘Who Are You?’ mi welwch chi Geraint Rhys yn yr iard fach yng nghefn ei dŷ, yn dyrnu’r dryms, yn riffio ffwl pelt ar y gitâr, ac yn dod reit fyny at lens y camera i sgrechian canu’r geiriau.
Mae’r cerddor yn aelod o gangen YesCymru Abertawe, sef y mudiad sy’n pwyso am annibyniaeth i Gymru.
Tra bod yna ddadlau brwd ac eithaf manwl am sut fyddai Cymru annibynnol yn sefyll ar ei thraed ei hun yn ariannol, ac ati, mae Geraint Rhys yn credu bod yna le hefyd am gân pync-roc pynshi sy’n dadlau’r achos.
“Mae e’n ffordd haws i gael neges ar draws, oherwydd mae e’n multisensory [fideo a miwsig], ac mae e’n ffordd wahanol o gyffwrdd yn y bobol.
“A hefyd, rydw i’n caru cerddoriaeth oherwydd mae e’n galluogi fi i adlewyrchu beth rydw i’n teimlo ac eisiau dweud… mae e’n ffordd dda o drafod beth sydd yn dy ben di.”
Does dim hanes o ganu na pherfformio yn y teulu.
“Rydw i jesd yn ffodus bo fi’n gallu canu – I can hold a note like!
“Mae’r llais yn rhywbeth fi’n gallu ymddiried ynddo, fwy na fy sgiliau gitâr, drymio na bass.
“Dw i’n gwybod, naw gwaith allan o ddeg pan dw i’n chware yn fyw, my voice is going to hold out!
“Ond pryd fi’n chwarae gitâr, mae digon o bum notes a stwff!”
I fod yn deg, mae’r gwaith gitâr ar ‘Who Are You?’ yn angerddol, amrwd, aflafar – jesd y boi!
“Rydw i’n credu, gan fy mod i wedi dysgu chwarae dryms gyntaf, mae’r ffordd rydw i’n chwarae gitâr yn eithaf rhythmig.
“Felly rydw i’n ymosod ar fy gitâr fel yr ydw i’n ymosod ar y dryms!”
Tra’i bod hi’n hollol amlwg o’i ganeuon ei hun bod Geraint Rhys yn hoffi pob math o gerddoriaeth, mae’r gân ‘Who Are You?’ wedi ei dylanwadu gan un sîn pync penodol.
“Yn fy arddegau roeddwn i’n gwrando ar amryw o gerddoriaeth wahanol, ond yn bendant roeddwn i’n hoffi Califfornian Punk fel Bad Religion, NOFX, Rancid a bands felly.
“Yn bendant mae’r trac yma yn dod o’r back catallogue yna.”
Ac mae wrth ei fodd yn creu caneuon pync, reggae, electro-roc a baledi acwstig.
“Petai rhywun yn cynnig yr arian i fi wneud albwm Gymraeg werinol, bydden i’n gwneud e’ – bydde fe’n sdiwpid i droi’r cynnig lawr!
“Ond efallai, oherwydd does dim label gyda fi, does dim lot o gymorth gyda fi o’r Sîn Gymraeg, dw i’n rhydd i wneud beth bynnag fi eisiau. Does neb yn dweud wrtha i beth i’w wneud.
“A dyna, efallai, pam fod [y caneuon] mor eclectig.”
Ymateb yn yr Alban a Gwlad y Basg
Mae stori wedi bod am Geraint Rhys a’i gân ‘Who Are You?’ ar wefan The National, sef y papur newydd sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban.
Fe astudiodd y Cymro yng Nghaeredin a dod yn ffrindiau gyda myfyrwyr o Gatalonia a Gwlad y Basg yn Sbaen.
Fe gafodd ‘Who Are You?’ sylw ar wefan newyddion berria yng Ngwlad y Basg hefyd.
Ond nid pawb sydd wedi gwirioni gyda’r gri am Gymru Rydd.
“Mae cefnogaeth i’r mudiad Annibyniaeth i Gymru,” meddai Geraint Rhys, “ond rydw i wedi cael digon o abiws hefyd [gan] bobol o dros y ffin.
“Pan rydech chi’n edrych ar y llunia ar eu facebook profile nhw, maen nhw i gyd gydag Union Jacks neu grysau rygbi Lloegr a phethau fel yna…
“Ond mae yn well gyda fi bod pobol yn siarad amdano fe, yn hytrach na bod nhw ddim.
“A hefyd, mae’r syniad [o Gymru annibynnol] yn eithaf newydd i bobol dros y ffin, ac i bobol yng Nghymru hefyd. Felly mae well gyda fi bod pobol yn siarad amdano fe, na ddim.”