Gydag etholiad Senedd Cymru i’w gynnal ymhen mis, mae Iolo Jones yn mynd ati i holi’r ymgeiswyr mewn ambell ardal ddiddorol…
Plaid Cymru sydd wedi ennill sedd Dwyfor Meirionnydd ym mhob etholiad Senedd ers y cyntaf yn 1999, ac ers y cychwyn mae’r etholaeth wedi ei chynrychioli gan un gwleidydd amlwg.
Dafydd Elis-Thomas yw’r gŵr hwnnw wrth gwrs, ond eleni mi fydd yn ildio’r awenau. Yn Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru, mi gefnodd ar y Blaid yn 2016 gan barhau’n Aelod Annibynnol o’r Senedd.
Yn gobeithio ennill y sedd yn ôl i Blaid Cymru eleni mae Mabon ap Gwynfor.
Mae’r ymgeisydd 42 oed yn ŵyr i un o ffigyrau enwocaf y cenedlaetholwyr, Gwynfor Evans, ac mae ganddo gysylltiadau cryf iawn â’r Blaid.
Ef yw rheolwr swyddfa a phrif ymchwilydd Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ac mae hefyd yn gynghorydd gwleidyddol i Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.
Hefyd, mae’n gynghorydd Plaid Cymru tros ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych.
Yn fab i weinidog, mae’n dweud ei fod “wedi byw ym mhob man yng ngorllewin tiriogaeth Cymru”. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Sir Ddinbych, ym mhentref Cynwyd, ger Corwen.
‘Cymunedau Iach’ yw teitl ei ymgyrch eleni, ac mae’n dweud bod yna bedair prif agwedd iddi.
“[Dw i eisiau sicrhau] swyddi o ansawdd sy’n talu cyflogau da,” meddai, “tai fforddiadwy i’n pobol leol ni, a gwasanaethau rheng flaen yn agos i’r cartref.
“[Dw i eisiau gwneud y cyfan] wrth barchu ein diwylliant a’n hamgylchedd.”
Mae Mabon ap Gwynfor yn gwrthwynebu ynni niwclear yn llwyr. Tybed beth yw ei deimladau am yr orsaf bŵer yn Nhrawsfynydd – safle sydd wrthi’n cael ei datgomisiynu?
“Dydw i ddim yn gefnogwr i ynni niwclear,” meddai. “A does dim rheidrwydd i gael ynni niwclear erbyn hyn.
“A hynny oherwydd bod digon o adnoddau naturiol gyda ni, yn enwedig yn Nwyfor Meirionnydd, i fanteisio arnyn nhw.
“Ac o ran y swyddi yn [Nhrawsfynydd], mae’r datgomisynu yn mynd i fod yn [para] gydol oes erbyn hyn, sy’n mynd i sicrhau’r swyddi sydd yno ar hyn o bryd am genhedlaeth arall.
“Felly mae cyfle i ni nawr i fuddsoddi mewn ynni cymunedol, mewn prosiectau lleol, er mwyn sicrhau swyddi lleol sydd yn cloi’r pres yna yn ein cymunedau.”
Mae’r ffaith ei fod yn ŵyr i Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf y Blaid, yn ddigon hysbys, a does dim ymdrech i gelu hynny.
Tybed a yw’r ymgeisydd yn disgwyl i’r cysylltiad teuluol weithio o’i blaid yn yr etholaeth?
“Dw i ddim yn gwybod,” meddai. “Dw i’n cynnig fy hun fel fi fy hun, nid yn fy mherthynas ag unrhyw un arall.
“Bydd pobol yn pleidleisio dros Mabon ap Gwynfor, Plaid Cymru, nid unrhyw un arall. A dyna fuaswn i’n gobeithio y bydd pobol yn ei ystyried wrth roi croes yn y blwch.”
Etholiad Senedd 2021: “Buaswn yn bradychu fy nghyndeidiau pe buaswn yn newid plaid” – Mabon ap Gwynfor
Y Tori o blaid ynni niwclear
Yn cynrychioli’r Ceidwadwyr yn Nwyfor Meirionnydd eleni mae Charlie Evans.
Daw’r gŵr 27 oed o Gaerfyrddin, mae’n byw yn Aberystwyth, ac mae’n Rheolwr Siop i gwmni Marks & Spencer.
Mae hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd cangen ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru’ y Torïaid.
Problem fawr sydd angen mynd i’r afael â hi, meddai, yw’r diffyg cyfleoedd i bobol ifanc. Rhaid delio â hynny, meddai, er mwyn “adfywio’r economi wledig”.
“Dw i wedi siarad â thipyn o bobol yn rhithwir a dros y ffôn ac mae yna ganfyddiad unfrydol, ymhlith pobol o bob perswâd gwleidyddol, bod yna ddiffyg cyfleoedd i weithwyr a phobol ifanc,” meddai.
“Ac mae hynna’n bwydo i mewn i [broblemau eraill], er enghraifft, pobol yn methu fforddio prynu eiddo i’w hunain. Felly mae yna [ddiffyg] mawr o ran cyfleoedd yn yr ardal.
“Mae yna orddibyniaeth ar y sector dwristiaeth, a’r sector gyhoeddus … Mae’r economi yn gul iawn. Ac mae angen dod â mwy o amrywiaeth i’r economi.”
O ran y pandemig, er ei fod yn cydnabod bod angen “dilyn y data” mae’n ystyried ei hun yn “feirniadol o fesurau awyr agored”.
“Rydym wedi gweld y data, ac mae’r wyddoniaeth yn dweud bod yr haint yn lledaenu’n llai y tu allan,” meddai.
“Mi allai’r lockdowns fod wedi bod yn llai llym. Ond ar yr un pryd rhaid i ni gyd ddilyn y rheolau.”
Mae’n atseinio galwad ei blaid bod angen cynllun clir ar gyfer y camau llacio dros y misoedd nesa’ – yn debyg i’r un sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan.
Ganol mis Mawrth, mi dynnodd Charlie Evans nyth cacwn am ei ben trwy bostio llun o gronfa ddŵr Llyn Celyn â neges yn tynnu sylw at “harddwch esthetig” Gwynedd.
Bu iddo ymddiheuro yn ddiweddarach ar ôl cael ei gyhuddo o anwybyddu hanes Tryweryn a boddi pentref Cymraeg Capel Celyn.
“Mae’n foment hanesyddol boenus, a dylwn fod wedi gwneud hynny’n glir ar y pryd,” meddai.
“Ond dw i’n gobeithio nad yw hynny’n tynnu oddi ar [fy] neges bositif ynghylch cyfleoedd, ysbytai gwell, ysgolion o’r radd flaenaf.
“Dw i’n gobeithio nad yw’n tynnu sylw oddi ar [fy awydd i weld] buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy neu’r prosiect adweithydd niwclear bach yn Nhrawsfynydd.”
‘Mae’r Senedd yn cael ei ddefnyddio i bwshio achos annibyniaeth’
Y Llafurwr sy’n cefnogi annibyniaeth
Myfyriwr 20 oed sydd yn sefyll tros Lafur yn yr etholaeth eleni.
Daw Cian Ireland o Lanaelhaearn ym Mhen Llŷn, ac mae ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Stirling yn yr Alban lle mae’n astudio Hanes.
Yn Drysorydd Mudiad Myfyrwyr Llafur yr Alban, ef yw un o’r tri ymgeisydd Llafur eleni sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Ac yntau’n sosialydd brwd sydd “efo syniad reit dda o’r problemau mae gweithwyr yn eu hwynebu yn yr ardal”, mae ganddo weledigaeth glir o’r hyn yr hoffai wireddu pe bai’n dod yn Aelod o’r Senedd.
“Dw i wedi bod yn sosialydd ers erioed!” meddai. “Dw i wedi bod yn gweithio ers oeddwn i’n 14.
“Mae lot o’r profiadau yna o weithio mewn gweithleoedd lle roeddwn i’n cael fy nhrin yn reit sâl wedi cael effaith fawr ar y ffordd dw i’n meddwl am wleidyddiaeth.
“Y ddau brif beth fyswn i eisiau taclo yn syth bin ydy’r cyflogau gwael yn yr ardal yn Nwyfor Meirionnydd, [a’r broblem tai haf].”
Mae’n dweud bod gweithwyr yng Ngwynedd ar gyfartaledd yn cael eu talu £1 yr awr yn llai na gweithwyr drwyddi draw yng Nghymru, ac “felly mae hwnna angen cael ei daclo yn syth” trwy “weithio efo’r undebau Llafur”.
Dywed bod y broblem tai haf yng Ngwynedd yn “enfawr” a hoffai weld cymunedau yn dewis tynged adeiladau gwag – a hynny fel bod “anghenion y gymuned yn gyntaf, cyn the profit motive”.
Mae Llafur wedi “gwneud lot o bethau really da” yn ystod eu cyfnod wrth y llyw yng Nghymru, meddai. Pe bai yntau’n dod yn AoS mae’n rhagweld y gallai gynnig safbwynt ffres.
“Dw i’n meddwl, yn enwedig o ystyried lle dw i’n dod o, a fy nghefndir i, buaswn i efo llais reit [unigryw] o fewn y blaid,” meddai.
“Ac ella buaswn i’n medru rhoi persbectif ychydig bach yn wahanol i bobol.”
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o ddwyn rhai o’i pholisïau – yn benodol addewid ynghylch Ysgol Feddygol i’r Gogledd ac isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.
Ond dyw Cian Ireland ddim yn derbyn yr haeriad hwnnw o gwbl.
“Mae’n amlwg bod nhw ddim yn deall sut mae polisïau yn cael eu creu o fewn y Blaid Lafur,” meddai. “Rydan ni’n blaid ddemocrataidd. Mae’r syniadau yma’n dod o’r aelodaeth.
“Mae’r syniad ei fod yn beth cynical lle mae pobol ar dop y Blaid yn eistedd yna yn edrych ar faniffestos Plaid Cymru yn y gorffennol, wel, nid fel’na mae’n gweithio.”
Annibyniaeth: ‘Mae’r pandemig wedi agor llygaid lot o bobol,’ medd ymgeisydd Llafur
Dyfalbarhad y Lib Dem unig
Mae gan Gyngor Gwynedd un cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol, a’r gŵr hwnnw fydd yn cynrychioli’r blaid yn etholiad y Senedd yn Nwyfor Meirionnydd.
Mae Steve Churchman, 58, yn hanu “o ardal Llundain-Essex yn wreiddiol”, ac mi symudodd i Wynedd yn 1999.
Yng Ngarndolbenmaen mae e’n byw, ac am flynyddoedd maith ef oedd yn rhedeg siop a swyddfa bost y pentref.
Pe bai’n dod yn AoS mi fyddai’n blaenoriaethu diffygion isadeiledd Gwynedd.
“Mae pandemig Covid wedi amlygu methiannau oddi fewn i’r rhwydwaith band eang,” meddai.
“Mae pobol yn gweithio o gartref, mae plant yn dysgu o gartref, ac mae yna dipyn o adeiladau yng Ngwynedd lle does dim band eang, neu mae’n sâl iawn.
“Mae hyn wedi amlygu’r angen am fuddsoddiad pellach, a buddsoddiad mawr, er mwyn sicrhau bod pob cartref yng Nghymru yn derbyn cysylltiad band eang call.”
D’yw pobol leol ddim yn ennill yr un cyflogau â phobol yn “Llundain a Birmingham”, meddai, ac felly maen nhw’n methu prynu tai mewn ardaloedd lle mae eu teuluoedd wedi byw am “gannoedd o flynyddoedd”.
Mae Steve Churchman wedi sefyll ym mhob etholiad i’r Senedd yn Nwyfor Meirionnydd ers 1999.
Etholiad Senedd 2021: Ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn darogan rhagor o seddi i’w blaid
Peter Propel yn lladd ar y Blaid
Am y tro cyntaf erioed mi fydd plaid Propel yn sefyll yn yr etholiad yma. Ffurfiwyd y blaid gan y cyn-AoS Plaid Cymru, Neil McEvoy, ac mae hi’n sefyll tros annibyniaeth i Gymru.
Peter Read, 53, yw ymgeisydd y Blaid yn Nwyfor Meirionnydd.
Cafodd yr ymgeisydd yma ei eni a’i fagu yn Rhydyclafdy, Pen Llŷn, ac mae bellach yn byw ym Mhentre Uchaf.
Roedd yn rhedeg garej ym Mhwllheli am flynyddoedd tan iddo brofi damwain barcuta (hang-gliding) yn 1995, ac yntau yn 28 oed. Yn ei eiriau ef mae’n “gaeth i gadair olwyn”.
Bellach mae’n gynghorydd llawn amser. Mae’n cynrychioli ward Abererch ar Gyngor Gwynedd, ac ef yw arweinydd Propel yno.
Cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2007 yn gynghorydd Llais Gwynedd. Treuliodd rhyw ddeng mlynedd â’r blaid honno.
Cwestiwn amlwg sy’n codi yw: Pam pleidleisio tros Propel os yw’r Blaid eisoes yn cynnig rhywbeth tebyg?
“Pam Propel?!” ochneidia. “Enwa di rywbeth mae Plaid Cymru wedi gwneud!
“Maen nhw [Cyngor Plaid Cymru Gwynedd] wedi cau canolfan iaith Gymraeg. Maen nhw wedi cau ysgolion … Maen nhw’n cau twristiaeth.
“Dydyn nhw’n gwneud dim byd ond cau pob dim. Mae’r bobol dw i wedi siarad efo nhw wedi cael llond bol efo fo.”
Pe bai’n dod yn AoS mi fyddai ganddo un flaenoriaeth fawr.
“Yr ochr bwysicaf i mi ydy’r ochr iechyd,” meddai. “Honno dw i wedi bod yn boeth amdano erioed ers i mi fod ar y cyngor.
“Dw eisiau gwneud o fel bod o ddim fatha post code lottery. Dw i eisiau gwneud mynediad i iechyd yn hawsach ac yr un peth trwy Ddwyfor Meirionnydd.”
Dylai cyfyngiadau godi “pan mae’n sâff”, meddai ymgeisydd Propel
- Fe wnaeth Golwg ofyn am gael cyfweld Robert Glyn Daniels, ymgeisydd Llais Gwynedd, ond ni chafwyd ateb.