Mae astudiaeth sydd wedi’i chynnal gan Brifysgol Aberystwyth wedi canfod fod effaith economaidd y pandemig yn fwy sylweddol ymhlith cymunedau gwledig Cymru.

Yn ôl yr astudiaeth, mae cyfraddau diweithdra yn uwch, tra bod nifer y gweithwyr sydd ar gynllun ffyrlo yn gorlethu’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu bod y pandemig wedi dwysáu problemau oedd eisoes yn bod, gan gynnwys argaeledd tai fforddiadwy a diffyg cysylltedd digonol i’r rhyngrwyd.

Mae hynny’n golygu bod cymunedau, busnesau ac unigolion cefn gwlad Cymru o dan anfantais.

“Anghydraddoldebau sydd ar waith”

Wrth drafod canfyddiadau’r astudiaeth ar raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru, dywedodd Dr Rhys Dafydd Jones o adran Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth mai “un o’r pethau sydd wedi cael ei amlygu fwyaf yw’r anghydraddoldebau syd ar waith yng nghefn gwlad”.

“Megis tai fforddiadwy, mae hynny’n bwysig i roi cyfle i bobol ifanc i fyw yn eu cymunedau sydd wedi cael eu magu yno sydd moen aros yn neu ddychwelyd,” meddai.

Dywed yr ymchwilydd fod cysylltedd gwael i’r rhyngrwyd yng nghefn gwlad Cymru hefyd yn “creu heriau o ran gweithio gartref”.

Yn ogystal, mae’r astudiaeth yn awgrymu bod digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu gorddibyniaeth ar amaethyddiaeth a thwristiaeth er mwyn cynnal yr economi weldig.

“Mae lot o ansicrwydd”

Ymhlith argymhellion yr astudiaeth mae’r angen i ymdrechu i wasgaru ymwelwyr i rannau gwahanol o’r wlad wrth edrych tua’r dyfodol.

Daw hynny wedi i’r ymchwilwyr ganfod fod ymwelwyr yn tueddu i gasglu mewn mannau penodol, megis Sir Benfro ac Eryri. 

“Byddde fe’n dda i ni os byddai pethau’n gwasgaru bach mwy yn Aberteifi, fi’n credu ein bod ni wedi gweld twristiaeth yng Ngheredigion yn cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai Jonathan Thomas, cyfarwyddwr castell Aberteifi.

“Mae lot o ansicrwydd ond mae pawb yn yr un cwch, fel petai.

“Mae blwyddyn anodd arall ’da ni o’n blaen ni ac y’n ni’n gorfod bod yn hyblyg fel yr haf diwethaf.”

Buddsoddiad £106m Llywodraeth Cymru 

Fis Medi y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad gwerth £106m ar gyfer cefn gwlad Cymru, wrth ymateb i’r heriau sy’n deillio o Brexit a Covid-19.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y cannoedd o brosiectau yn rhoi hwb i’r economi wledig, ac yn gwella bioamrywiaeth a gwytnwch y sector bwyd ledled Cymru am y tair blynedd nesaf.

“Mae effaith y stormydd dwys ar ein cymunedau gwledig yn gynharach eleni ac yna’r pandemig Covid-19 wedi bod yn aruthrol,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar unwaith drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n unigryw i Gymru, yn ogystal â chyfres o gynlluniau wedi’u targedu.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw’n nodi rhywfaint o’r cyllid y byddwn yn ei ddarparu ar gyfer datblygu gwledig nid yn unig yn y dyfodol agos, ond am y tair blynedd nesaf.

“Er bod economi wledig Cymru yn wynebu sawl her mae gennym lawer o asedau a chyfleoedd y gallwn adeiladu arnyn nhw – o’n treftadaeth naturiol ysblennydd i’r sectorau bwyd a diod ffyniannus.

“Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn adeiladu ar y cryfderau hynny i gefnogi swyddi ac arloesedd yn yr economi wledig mewn ffordd sy’n diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

£100m i helpu cefn gwlad Cymru drwy Brexit a Covid-19

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad o £106m mewn ymateb i’r heriau