Mae cwmni J D Wetherspoon wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi £145m er mwyn agor tafarndai newydd ac uwchraddio rhai sy’n bodoli’n barod, gan gynnwys rhai yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd, gan greu 2,000 o swyddi newydd.

Ond mae’n dweud bod y cynllun yn amodol ar lacio cyfyngiadau Covid-19 a pheidio â’u newid nhw’n “dragwyddol”.

Bydd 18 tafarn newydd yn agor mewn dinasoedd ar draws gwledydd Prydain a bydd “estyniadau a gwaith uwchraddio sylweddol” yn cael ei gynnal ar nifer o dafarndai eraill.

Yn eu plith, mae tafarn William Owen, Hwlffordd a thafarn Yr Hen Dderwen yng Nghaerfyrddin.

Y bwriad yw cychwyn y gwaith o fewn wythnosau wedi i’r cyfyngiadau Covid-19 presennol gael eu llacio a phan fydd modd i dafarndai ailagor yn llawn.

Ar ôl cwblhau’r 75 prosiect sydd ar y gweill, mae’r cwmni’n rhagweld y byddan nhw’n buddsoddi £750m  eto er mwyn agor 15 o dafarndai newydd ac ehangu 50 o dafarndai presennol bob blwyddyn dros ddeng mlynedd, gan greu 20,000 o swyddi newydd.

Rhai amodau

“Bydd y buddsoddiadau hyn yn creu gwaith i benseiri, contractwyr ac adeiladwyr yn ogystal ag arwain at 2,000 o swyddi newydd i staff yn ein tafarndai,” meddai Tim Martin, sylfaenydd a chadeirydd y cwmni, sydd wedi bod yn uchel ei gloch am y cyfyngiadau.

“Rydym wedi paratoi i ddechrau ar y prosiectau cyntaf o fewn ychydig fisoedd.

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i’n rhaglen fuddsoddi hirdymor ac i greu swyddi dros y degawd nesaf.

“Fodd bynnag, mae’r buddsoddiad yn amodol ar y Deyrnas Unedig yn ail-agor ar sail hirdymor, heb unrhyw gyfyngiadau pellach, na newid rheolau’n dragwyddol.”