“Does neb yn ddiogel nes bod pawb yn ddiogel” yw neges Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a 23 o arweinwyr gwleidyddol gwledydd eraill sy’n galw am gydweithio er mwyn atal Covid-19 ar draws y byd.

Maen nhw wedi bod yn ysgrifennu yn eu papurau newydd cenedlaethol wrth i Boris Johnson ddweud yn y Daily Telegraph fod angen “cytundeb rhyngwladol ar gyfer paratoi at bandemig ac ymateb iddo”.

Mae Boris Johnson yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’n glir o hyd pa mor gadarn yw’r mesurau sydd yn eu lle i warchod pobol trwy’r cynllun brechu pe bai cynnydd sydyn a sylweddol mewn achosion yng ngwledydd Prydain.

“Yr hyn nad ydyn ni’n ei wybod yw pa mor gryf yn union yw ein camau atgyfnerthu, pa mor gadarn yw ein hamddiffynfeydd yn erbyn ton arall,” meddai.

“Rydyn ni wedi gweld beth sy’n digwydd o ran ein ffrindiau Ewropeaidd.

“Yn hanesyddol, o leiaf y bu oedi cyn i ni gael ein ton ein hunain.

“Dyna pam dw i’n pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pawb yn cynnal y ddisgyblaeth mae pobol wedi ei dangos ers cyhyd.”

Pobol yn poeni llai

Daw ei sylwadau wrth i bôl piniwn gan Ipsos Mori awgrymu bod trigolion gwledydd Prydain yn poeni llai am effaith Covid-19 erbyn hyn nag yr oedden nhw fis yn ôl.

Cafodd 1,009 o oedolion eu holi ddechrau’r mis, ac roedd 49% yn teimlo bod y pandemig yn broblem fawr i wledydd Prydain, a hynny o gymharu â 72% yn ystod mis Chwefror.

Mae’r Athro Chris Whitty, prif swyddog meddygol Lloegr, yn rhybuddio bod “tebygolrwydd uchel” o gynnydd mewn achosion pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio yn unol â chynlluniau Llywodraeth Prydain.

Ond mae’n dweud y byddai effaith y llacio’n llai pe bai pobol yn parhau i ddilyn canllawiau cadw pellter oddi wrth ei gilydd.