Bydd holl aelodau Clwb Golff Llanymynech, sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn cael chwarae ar y cwrs er gwaetha’r cyfyngiadau Covid-19 sy’n atal pobol rhag croesi’r ffin o’r naill wlad i’r llall.

Mae 15 twll a phrif adeilad y clwb yn gyfangwbl ym Sir Drefaldwyn. Ond mae’r tri thwll arall – rhan o’r pedwerydd twll a thyllau pump a chwech yn eu cyfanrwydd – a phrif fynedfa’r clwb yn Sir Amwythig.

Roedd pryderon na fyddai modd ei ailagor yn sgil y gwahanol gyfyngiadau sydd mewn grym yn y naill wlad a’r llall – ac y byddai pobol yng Nghymru’n cael chwarae er bod rhaid iddyn nhw groesi’r ffin i Loegr i gyrraedd y brif fynedfa.

Yn wreiddiol, roedd Cyngor Powys wedi rhybuddio aelodau sy’n byw yn Lloegr y gallen nhw fod yn torri’r cyfyngiadau pe baen nhw’n mynd ar y cwrs ac yn croesi’r ffin.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud ei bod yn “rhesymol” rhoi’r hawl i chwaraewyr yng Nghymru a Lloegr gael mynd ar y cwrs am rownd gyfan.

Roedd disgwyl i 100 allan o 450 o aelodau’r clwb yn Lloegr chwarae ddoe (dydd Llun, Mawrth 29) i nodi bod y cyfyngiadau yn Lloegr wedi cael eu llacio, ond bu’n rhaid i’r clwb groesawu chwaraewyr o Gymru yn unig hyd nes bod datrysiad i’r sefyllfa.

‘Nonsens’

Mae Stuart Jones, cadeirydd y clwb, yn dweud bod y sefyllfa’n “nonsens”.

“Cawson ni wybod [gan y Cyngor Sir] nad oes hawl gan aelodau Seisnig chwarae… ac fe ddywedon nhw y câi trigolion yng Nghymru chwarae,” meddai.

“Nonsens yw hynny, mewn gwirionedd.

“Mae’r fynedfa yn Lloegr a heb y trigolion Seisnig, fyddai’r clwb ddim gyda ni oherwydd dyna ddau draean ein haelodau ni.”

Mae’n dweud bod y clwb “yn farw” yn sgil cyngor cyfreithiol y Cyngor Sir.

“Fwy na thebyg, bydden ni wedi cael tua 150 o bobol yn chwarae heddiw, ar ddydd Llun arferol.

“Gwelais i ddau berson allan ar y cwrs a dyna’r cyfan.

“Mae’n drist.

“Roedd hi’n braf ac yn heulog ac roedd y lle’n llawn ar gyfer chwarae.

“Rydyn ni wedi aros tri mis ac roedd pobol yn ysu i gael gêm. Mae’n hurt.”

Ymateb

Cyn i Lywodraeth Cymru gynnig datrysiad, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Sir eu bod nhw’n “deall y rhwystredigaeth” a’u bod nhw’n “cydweithio” â’r clwb er mwyn dod o hyd i ateb boddhaol, ond fod “cyfyngiadau teithio mewn grym gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu nad oes modd teithio i mewn ac allan o Gymru oni bai bod gennych chi esgus rhesymol”.

Dywedodd llefarydd fod aelodau’r clwb “wedi cael cyngor ar y cyfyngiadau diweddaraf”, ac mai’r “heddlu’n unig all orfodi cyfyngiadau teithio”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y “byddai’n rhesymol i aelodau Clwb Golff Llanymynech ddod i Gymru neu adael o fewn ffiniau’r clwb golff”.

Ond mae Owen Paterson, aelod seneddol Gogledd Sir Amwythig, wedi ymateb yn chwyrn.

“Datganiadau gwarthus gan y weinyddiaeth Lafur yng Nghymru,” meddai ar Twitter.

“Maen nhw’n dweud na all pobol Sir Amwythig fynychu Clwb @Llanymynechgolf ond eto, gall pobol yng Nghymru groesi i fynedfa’r clwb yn Sir Amwythig!

“Dylai fy etholwyr fod yn rhydd i allu mwynhau ymarfer corff ac awyr iach yn ddiogel heddiw.”

Llun o dwll mewn cwrs golff

Clwb golff ar y ffin am ddilyn rheolau Lloegr, nid Cymru

Dim ond tri thwll sydd yr ochr yma i Glawdd Offa

Pam fydd y tafarnwr yn croesi’r ffordd?

Mae landlord tafarn ar ffin Powys â Swydd Amwythig yn wynebu’r sefyllfa “ryfedd” o aros ar gau – a hynny o fewn golwg i ddwy dafarn fydd wedi ailagor, gan eu bod yn Lloegr.