Mae Hal Robson-Kanu, Rabbi Matondo a Tyler Roberts wedi cael eu hanfon adref am dorri protocol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Bydd y tri nawr yn colli gêm rhagbrofol Cwpan y Byd nos yfory (Mawrth 30) yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
Mae’r tri wedi cael eu hanfon o ‘wersyll’ y tîm gyda streiciwr Leeds – Roberts – yn ymddiheuro ar y cyfryngau cymdeithasol – mewn post sydd bellach wedi cael ei dileu – am aros i fyny’n rhy hwyr a thorri cyrffyw yng ngwesty’r tîm.
Dywedodd datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae tri aelod o uwch garfan genedlaethol Cymru – Hal Robson-Kanu, Rabbi Matondo a Tyler Roberts – wedi cael eu rhyddhau o wersyll Cymru heddiw ar ôl torri protocol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Bydd y tri chwaraewr yn dychwelyd i’w clybiau priodol y prynhawn yma.
Cymhwyso
“Ni fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwneud unrhyw sylw pellach.”
Dechreuodd Roberts ac asgellwr Stoke, Matondo, 20, yn y fuddugoliaeth gyfeillgar 1-0 dros Fecsico ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd, tra daeth ymosodwr West Brom Robson-Kanu, 31, ymlaen ar hanner amser.
Roedd y tri chwaraewr i gyd yn gobeithio cael eu dewis i chwarae yn erbyn y Weriniaeth Tsiec wrth i Gymru geisio ennill eu pwyntiau cymhwyso cyntaf yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl colli eu gêm agoriadol yng Ngwlad Belg yr wythnos ddiwethaf.
Meddai Roberts, yn y post sydd bellach wedi’i ddileu: “Gutted i fod yn gadael y gwersyll yn gynnar, ond rheolau yw rheolau ac ni ddylwn fod wedi bod i fyny yn hwyrach yn y gwesty na’r amser penodol.
“Mae’n ddrwg gennyf am y tîm, y staff a chefnogwyr Cymru. Byddaf yn parhau i weithio mor galed ag y gallaf i ennill fy lle yn y garfan ar gyfer yr Ewros.”
Y digwyddiad hwn yw’r ergyd ddiweddaraf i garfan Cymru, sydd wedi bod heb y rheolwr Ryan Giggs ar gyfer y ddau gampws rhyngwladol diwethaf.
Arestiwyd Giggs ar amheuaeth o ymosod ar Tachwedd 1. Mae’n gwadu’r honiadau ac mae ei fechnïaeth wedi’i hymestyn tan Mai 1.
Mae Robert Page wedi cymryd rheolaeth yn absenoldeb Giggs, gan ennill tair, un gêm yn gyfartal a cholli un o’r pum gêm fel rheolwr dros dro.
Yn ddiweddar hefyd fe adawodd y prif weithredwr Jonathan Ford ei swydd ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder gan gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru.