Mae tri dyn ac un bachgen yn ei arddegau wedi eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio dyn ifanc 17 oed o Gaerdydd.
Cafodd corff Harry Baker ei ganfod yn Nociau’r Barri yn Ne Cymru ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith a’i adael heb ei ddillad, ar Awst 28, 2019.
Clywodd Llys y Goron, Casnewydd bod Harry Baker wedi dechrau gwerthu cyffuriau yn y Barri, ac felly wedi dod yn darged i werthwyr cyffuriau lleol eraill.
Yn gynharach y mis hwn, cafodd Peter McCarthy, 38, Leon Clifford, 23, Leon Symons, 22, a Brandon Liversidge, 17 eu canfod yn euog o’i lofruddiaeth.
Cafwyd tri dyn arall, Lewis Evans, 62, Ryan Palmer, 34, a Raymond Thompson, 48 eu canfod yn euog o ddynladdiad.
“Mae ei farwolaeth mor drasig a diangen”
Yn ôl y CPS roedd Raymond Thompson yn rhan o’r grŵp oedd wedi cornelu’r bachgen ifanc, cyn gadael yn fuan wedi hynny.
Roedd Lewis Evans wedi ymddwyn fel gyrrwr y criw, gan helpu’r ymosodwyr i ddod o hyd i Harry ac i ddianc yn dilyn yr ymosodiad. Hefyd, cafodd dwy gyllell eu canfod mewn gwrych cyfagos, a chanfyddwyd yn ddiweddarach eu bod wedi dod o’i gegin.
Yn ystod y gwrandawiad i ddedfrydu’r grŵp yng Nghasnewydd heddiw (dydd Llun, Mawrth 29), dywedodd y Barnwr Ustus Picken:
“Doedd (Harry Baker) ddim yn haeddu marw ac mae ei farwolaeth mor drasig a diangen â marwolaeth unrhyw un sydd wedi’i lofruddio, rwy’n gwneud hynny’n gwbl glir.”
Cafodd Leon Clifford ei ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 27 mlynedd, tra bod Leon Symons a Peter McCarthy hefyd wedi cael eu dedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 28 ac 23 blynedd.
Cafodd Brandon Liversideg, oedd yn 16 oed ar y pryd ei enwi am y tro cyntaf heddiw a’i garcharu am isafswm o 20 mlynedd.
Yn ogystal, bu i Lewis Evans ei garcharu am bedair blynedd, Ryan Palmer am 11 a Raymond Thompson am chwe mlynedd.
“Colli mab, brawd a ffrind poblogaidd”
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Heddlu De Cymru, Andy Miles:
“Ni fydd unrhyw ddedfryd yn ddigon hir iddyn nhw.
“Cafodd dyfodol a chyfle Harry i droi ei fywyd o’ gwmpas ei gipio oddi arno ac mae ei deulu a’i ffrindiau wedi colli mab, brawd a ffrind poblogaidd.
“Maent wedi dangos cryfder ac urddas aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad ac achosion llys dilynol ac mae ein cydymdeimlad yn parhau i fod gyda nhw, wrth iddynt gychwyn ailadeiladu eu bywydau.
“Dangosodd y diffynyddion diystyredd llwyr am fywyd dynol ar noson yr ymosodiad ac mae’r diffyg parch ac edifeirwch wedi parhau drwy gydol yr achos hwn.”
Dywedodd Kelly Huggins, o Wasanaeth Erlyn y Goron:
“Cafodd Harry ei dargedu’n fwriadol a’i hela’n ddidrugaredd.
“Yn anffodus, mae person ifanc arall wedi colli ei fywyd yn ddiangen o ganlyniad i droseddau cyllyll.”