Bydd pobol yn gallu cofleidio eto pan fydd achosion Covid-19 yn isel, yn ôl cyn-gynghorydd gwyddonol.

Mae yna tua 5,000 achos o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig bob diwrnod, meddai Sir Mark Walport, cyn-gynghorydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Er bod y rhai mwyaf bregus wedi’u brechu, mae yna 37 miliwn o bobol sydd ddim yn imiwn i’r feirws.

Dywedodd Mark Walport eu bod nhw’n dysgu mwy am y brechlyn bob dydd – gan gynnwys tystiolaeth i ddangos a ydi o’n atal y feirws rhag cael ei ledaenu.

Mae’r slogan “dwylo, wyneb, lle, ac awyr iach” yn bwysig i atgoffa pobol i “beidio sleifio mewn i dai” wrth i gyfyngiadau lacio, ychwanegodd.

“Pan fydd y dystiolaeth yn dangos bod nifer yr achosion yn fach iawn iawn, dyna’r pwynt [pan fydd pobol yn gallu cofleidio]”, meddai.

Yn ôl Syr Mark Walport, mae nifer “fach iawn iawn” yn golygu nifer sy’n “sylweddol is na’r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd”.

“Mae tua 5,000 o achosion y diwrnod yn weddol debyg i fel oedd pethau ddiwedd Medi, ac yn sicr aeth nifer yr achosion ar i fyny wedi hynny, felly dylem ni fod yn eithaf pryderus ynghylch hyn,” esboniodd.

“Mae tua 0.3% o 0.4% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn cael ei heintio â’r feirws bob diwrnod.”

“Bod yn ofalus iawn yw’r ateb”

Wrth drafod cofleidio neiniau a theidiau, dywedodd mai “bod yn ofalus iawn yw’r ateb.”

“Mae trosglwyddiad y feirws tu allan llawer yn is, ond y pellter oddi wrth eraill sy’n bwysig ar ddiwedd y dydd.

“Mae bod yn agos at berson arall tu allan am gyfnodau hir yn dod â risgiau.

“Felly, mae’n rhaid i bobol feirniadu’r sefyllfa eu hunain, ond gwneud hynny mewn ffordd ofalus, gobeithio.”

“Rydym ni’n gwybod nawr mai trosglwyddiad drwy’r aer yw’r ffordd bwysicaf o drosglwyddo’r feirws, ac, yn amlwg, tu allan mae’r feirws yn cael ei chwythu i ffwrdd yn haws.

“Dyma un o’r rhesymau pam fod yr haf yn adeg saffach wrth ystyried feirysiau resbiradol,” meddai wrth Times Radio.

“Mae yna dipyn o’r haint o’n cwmpas yn dal i fod, ac rydym angen pwysleisio i bobol fod y llacio mewn cyfyngiadau yn berthnasol tu allan, ac nad yw’n caniatáu i bobol sleifio mewn i dai.”