Fe fydd yr amddiffynnwr canol James Lawrence ar gael wrth i dîm pêl-droed Cymru chwarae gartref am y tro cyntaf yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 heno (nos Fawrth, Mawrth 30).

Gweriniaeth Tsiec yw’r gwrthwynebwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i Gymru geisio taro’n ôl ar ôl colli’r gêm agoriadol yn erbyn Gwlad Belg o 3-1 chwe niwrnod yn ôl (nos Fercher, Mawrth 24, 7.45yh).

Roedd ansicrwydd ynghylch argaeledd Lawrence ar gyfer y gêm heno ar ôl i’w glwb, St. Pauli yn yr Almaen, wrthod ei ryddhau ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico nos Sadwrn (Mawrth 27).

Ond wrth i gyfyngiadau Covid-19 yr Almaen gael eu llacio, roedd modd iddo fe deithio adref i ymuno â charfan Cymru i baratoi ar gyfer y gêm, a hynny er mawr rhyddhad i’r rheolwr dros dro, Robert Page, sy’n dweud bod y penderfyniad i’w ryddhau’n ei “blesio”.

“Rydych chi eisiau eich chwaraewyr gorau gyda chi mewn gwersyll ac mae e’n sicr yn y categori hwnnw,” meddai.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n wych i ni yn erbyn Gwlad Belg.

“Roedd yn destun siom fod rhaid iddo fe ddychwelyd i’r Almaen.

“Ond gyda’r cyfyngiadau’n cael eu llacio y bore wedyn, roedd ein bys ar y pyls o ran hynny.

“Ces i wybod wrth i ni gerdded allan i ymarfer y bore wedyn, gan weithredu ar unwaith.

“Bu’n broses rwystredig ond diolch byth fod synnwyr cyffredin yn y pen draw a’n bod ni wedi llwyddo i’w gael e i mewn.”

Cymru ‘ddim eisiau dechrau’r ymgyrch gyda dwy golled’

Yn y cyfamser, mae Gareth Bale yn dweud nad yw’r garfan eisiau dechrau ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2022 gyda dwy golled.

“Rydyn ni eisiau ennill y gêm, dyna ein meddylfryd,” meddai.

“Yn amlwg, dydyn ni ddim eisiau dechrau’r ymgyrch gyda dwy golled.

“Dydyn ni ddim yn meddwl am golli, ond rydyn ni’r bois profiadol yn gwybod nad yw’n ras wib, ond yn farathon.

“Rydyn ni’n credu y gallwn ni ennill, a dyna fyddwn ni’n ceisio’i wneud.

“Y peth pwysicaf yw ein bod ni’n canolbwyntio arnom ni ein hunain a’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Allwn ni ddim rheoli canlyniadau eraill, ond os ydyn nhw’n mynd o’n plaid ni, gwych.”

Y Wal Goch

Wrth ymateb i’r ffaith na fydd y Wal Goch yn cael bod yng Nghaerdydd, mae Gareth Bale yn dweud mai’r cefnogwyr yw “deuddegfed dyn” Cymru.

“Rydyn ni’n gutted na all y cefnogwyr fod yno, yn amlwg,” meddai.

“Nhw yw ein deuddegfed dyn ni, ond mae cael bod gartref a pheidio gorfod teithio yn rhoi rhywfaint o fantais i chi.

“Rydyn ni wedi gwneud ein holl baratoadau ac allwn ni ddim aros i’r gêm ddechrau.

“Byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i gymhwyso ar gyfer y Cwpan y Byd yma.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n gêm anodd nos Fawrth, ond rydyn ni’n hyderus y gallwn ni ennill.”

  • Mae’r gêm yn fyw ar S4C heno am 7.25yh, a’r gic gyntaf am 7.45yh (nos Fawrth, Mawrth 30)

Crys coch, a logo'r Gymdeithas Bel-droed ar y frest

James Lawrence: ffrae rhwng Cymru a St Pauli cyn y gêm yn erbyn Gweriniaeth Tsiec

Mae’r clwb Almaenig yn gwrthod rhyddhau’r amddiffynnwr ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd

Tri o chwaraewyr Cymru yn cael eu hanfon adref am aros ar eu traed yn rhy hwyr

Y tri yn methu y gêm dyngedfennol yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar ôl torri protocol Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Ben Cabango

Facebook yn cau cyfrifon wedi i bêl-droedwyr Cymru dderbyn camdriniaeth hiliol

Gareth Bale yn ychwanegu ei lais a’r cwmni’n dweud eu bod wedi ymrwymo i “wneud mwy”

Heddlu’n ymchwilio i sylwadau hiliol mewn negeseuon at Rabbi Matondo a Ben Cabango

“Wythnos arall o @instagram yn gwneud dim byd am sarhad hiliol,” meddai Rabbi Matondo ar Twitter