Mae Jess Fishlock, y ferch sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros dîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod y gamp wedi ei helpu fel merch hoyw pan oedd hi’n ifanc ac yn ceisio deall pwy oedd hi.

Yn 2018, derbyniodd y chwaraewraig canol cae MBE am ei gwasanaeth i’r byd pêl-droed ac i’r gymuned LHDT.

“Ro’n i’n hoyw ar y pryd a do’n i ddim wir yn gwybod sut i ffeindio fy ffordd drwyddi,” meddai wrth y podlediad ‘The Game Changers’.

“Roedd hynny’n anodd iawn.

“Doeddech chi ddim yn siarad am y peth, doedd e ddim yn bod, roedd popeth yn gudd.

“Ac yna, dyna lle mae pêl-droed yn dod i mewn i fi, oherwydd roedd yn lle diogel iawn.

“Byddwn i’n mynd i ymarfer ddwywaith yr wythnos a byddwn i wedi fy amgylchynu gan bobol oedd yn weladwy iawn i fi, yn deall yn iawn ac yn gwneud i fi deimlo fel pe bai’n iawn… fod bod yn hoyw yn iawn, oedd yn grêt.

“Roedd chwaraeon yn lle diogel iawn, iawn i fi.

“Fe wnaeth e wir fy helpu i ddarganfod fy hunan, ond hefyd i ffeindio fy ffordd drwy agweddau eraill ar fy mywyd ro’n i’n eu cael nhw’n anodd iawn.”

Datgan ei bod hi’n hoyw

Mae’n dweud iddi roi gwybod i’w theulu yn 15 neu’n 16 oed ei bod hi’n hoyw.

“Do’n i ddim eisiau i neb arall fynd drwy’r hyn ro’n i wedi bod drwyddo fe,” meddai am ei phenderfyniad yn ddiweddarach i ddatgan yn gyhoeddus ei bod hi’n hoyw.

“A dw i eisiau iddi fod yn weladwy, yn enwedig yng Nghymru, oherwydd does dim digon i bobol ifanc.

“Mae’r diffyg gweladwyedd a’r ffaith, pan o’n i’n tyfu i fyny, fod y gymuned LHDTC yn gwbl danddaearol, wedi’i gorfodi i fynd yn danddaearol… pan mai dyna’r sefyllfa, yna ar y cyfan, rydych chi’n tyfu i fyny yn meddwl bod yr hyn ydych chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud yn anghywir.

“Dydy hi ddim yn anghywir o gwbl, ond dyna sut rydych chi’n cael eich gorfodi i deimlo.

“Ac felly, wnes i jyst… do’n i ddim eisiau hynny rhagor.”

‘Llwyfan i helpu i greu newid’

Fel chwaraewr, mae Jess Fishlock yn teimlo bod ganddi hi a merched eraill lwyfan i “helpu i greu newid”.

“Mae’n fater o geisio creu newid i bobol eraill sydd heb lais yn y pen draw,” meddai.

“Ac felly, do, fe wnes i drio fy ngorau i wneud hynny pan oedd hi’n bosib.”

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n gwneud iddi ystyried dilyn gyrfa mewn rhyw agwedd ar wleidyddiaeth.

“Wrth i fi fynd yn hŷn, dw i’n meddwl fy mod i wedi sylweddoli fwyfwy fy mod i eisiau mentro i ryw fath o wleidyddiaeth neu’n sicr i rôl all fod yn fwy gweithgar a newid bywydau o ran polisïau ac ati,” meddai.

“Yn sicr, mae rhywbeth ynof fi sydd eisiau mentro i’r byd newid polisïau ac ysgwyd pennau pobol a rhoi clec fach ar gefn y glust, ond cawn ni weld.”