Mae ffrae yn corddi rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chlwb St Pauli yn yr Almaen, sy’n gwrthod rhyddhau’r amddiffynnwr canol James Lawrence ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gweriniaeth Tsiec nos Fawrth (Mawrth 30).
Mae Cymru’n dweud bod ganddyn nhw gefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed yr Almaen a FIFA.
Roedd Lawrence yn nhîm Cymru nos Fercher (Mawrth 24), wrth iddyn nhw golli o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg yng ngêm agoriadol yr ymgyrch.
Ond fe ddychwelodd e i Hamburg ar ôl y gêm, gyda chyfyngiadau cwarantîn Covid-19 yr Almaen yn ei atal rhag teithio eto i wledydd Prydain.
Yn sgil hynny, doedd e ddim ar gael ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 27).
Ond mae Cymru’n mynnu y dylai St Pauli ei ryddhau e ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd yr wythnos hon ar ôl i gyfyngiadau’r Almaen gael eu llacio rywfaint.
Ymateb Robert Page
“Mae’n anodd,” meddai Robert Page, rheolwr dros dro Cymru, ar ôl y fuddugoliaeth o 1-0 dros Fecsico.
“Mae gyda ni Gymdeithas Bêl-droed yr Almaen ar ein hochr ni, mae gyda ni FIFA ar ein hochr ni.
“Does ond angen i’r clwb ei ryddhau e.
“Rydyn ni’n dal i drafod â’r clwb ac yn ceisio’i gael e ynghlwm wrth y garfan eto.
“Mae’n rywbeth y byddwn ni’n ei wneud eto dros nos.
“Mae hi ond yn fater o’r clwb yn ei ryddhau e.
“Rydyn ni’n cael ein gwarchod [gan y rheoliadau].
“Does gan Gymdeithas Bêl-droed yr Almaen ddim problem â hyn, ac mae FIFA wedi dweud ‘ie’.
“Does dim rheswm pam na ddylen ni ei gael e a fel dw i’n ei ddweud, rydyn ni’n trafod â’r clwb.”