Cafodd cefnogwyr tîm pêl-droed Mecsico wers am Gymru ac ychydig o eirfa Gymraeg cyn y gêm bêl-droed yng Nghaerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 27).

Enillodd Cymru’r gêm o 1-0.

Cyhoeddodd tudalen tîm cenedlaethol Mecsico drydariad yn dweud ei bod hi’n “bryd dod i wybod mwy am Gymru hardd”, gan ddweud bod Cymru’n “wlad gwbl ryfeddol”.

Wrth roi gwybodaeth am ddaearyddiaeth Cymru, roedd gwybodaeth am rai o’n danteithion ni hefyd.

Mewn adran am fwyd Cymru, mae’n cyfeirio at datws pum munud, crempog a bara brith.

Ond mewn adran am ddiodydd, mae gan Gymdeithas Bêl-droed Fecsico farn ryfedd am arferion yfed te y Cymry, gan ddweud ein bod ni’n enwog am “yfed te bob dydd, naill ai yn y bore neu’r prynhawn”.