Cymru 1–0 Mecsico                                                                           

Cafodd Cymru’r canlyniad perffaith i ddathlu canfed cap Chris Gunter wrth guro Mecsico yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

Roedd gôl gynnar Kieffer Moore yn ddigon i ennill y gêm gyfeillgar a rhoi’r paratoadau perffaith i Rob Page cyn wynebu’r Weriniaeth Tsiec yn y gêm gystadleuol bwysig nos Fawrth.

Y tîm

Gwnaeth Page un ar ddeg newid i’r tîm a gollodd yng Ngwlad Belg nos Fercher. Roedd hynny i’w ddisgwyl efallai ond roedd hi’n syndod gweld cymaint yn chwarae allan o safle.

Yn dechrau gyda thri yn y cefn eto, Ben Cabango a oedd yr unig amddiffynnwr canol cydnabyddedig yn y tîm, gyda Gunter a Rhys Norrington-Davies o’i boptu. Roedd swydd anghyfarwydd i Jonny Williams a Tom Lawrence fel cefn-asgellwyr hefyd.

Nid oedd llawer o wynebau cyfarwydd i bêl droed Ewropeaidd yn nhîm Mecsico ond maent yn dîm da ac yn nawfed yn rhestr detholion y byd.

Ond does dim dwywaith mai stori fawr y noson a oedd achlysur arbennig yr arwr cenedlaethol, Chrisopher Ross Gunter, yn gapten ar ei wlad wrth iddo gyrraedd ei ganfed cap, y dyn cyntaf i wneud hynny dros Gymru.

Chris Gunter yn arwain ei wlad

Dechrau da eto

Cafodd Cymru, a Cabango’n benodol, fraw cynnar gyda phêl beryglus dros yr amddiffyn yn amlygu’r cyflymder yn nhîm y gwrthwynebwyr. Ond buan iawn y setlodd Cymru i’r gêm ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond deg munud.

Oes oedd ambell un yn poeni am Joniesta fel cefn-asgellwr dde, cafodd eu hofnau eu tawelu wrth iddo gyfuno’n effeithiol gyda Rabbi Matondo a Tyler Roberts i greu’r gôl i Moore. Roedd gan y blaenwr ddigon i wneud hefyd ond gorffennodd yn daclus gyda dau gyffyrddiad yn y cwrt chwech.

Kieffer Moore yn dathlu

Roedd Cymru yn ddigon cyfforddus wedi hynny er mai prin iawn a oedd cyfleoedd clir yn y ddau ben.

Patrwm tebyg

Patrwm digon tebyg a oedd i’r ail hanner; Mecsico yn mwynhau digon o feddiant ond Cymru yn amddiffyn yn gyfforddus a chreu ychydig pan yr oedd y cyfleoedd yn codi.

Roedd Hal Robson-Kanu ar y cae yn lle Moore a bu bron i Roberts a Williams gyfuno ar y dde i roi copi perffaith o’r gôl hanner cyntaf iddo. Ceisiodd Hal sodliad deheuig ond pas wedi ei hanelu at Matondo y tu ôl iddo oedd hi mewn gwirionedd ac roedd gormod o bwysau arni iddo reoli ei gynnig.

Un arall o’r eilyddion hanner amser a ddaeth agosaf at ddyblu’r fantais, Josh Sheehan yn ergydio fodfeddi heibio’r postyn o ugain llath.

Josh Sheehan

Dychwelodd Wayne Hennessey rhwng y pyst yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf ac er na fu’n rhaid iddo weithio’n rhy galed, edrychodd yn awdurdodol iawn o’i gymharu â Danny Ward yn y gêm ddiwethaf.

Gwnaeth ei arbediad gorau toc cyn yr awr i atal Hirving Lozano â’i droed ond siawns y caiff gyfle i wneud ambell un arall wrth gadw ei le yn y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn y Tsieciaid.

Nid oedd llawer o lif i’r gêm yn yr ugain munud olaf wrth i’r ddau dîm wneud llu o newidiadau. Un o’r rheiny i Gymru a oedd Gareth Bale, heb os yn awyddus i chwarae rhan fach yng nghanfed cap ei gyfaill, Gunts.

Perfformiad digon derbyniol a chanlyniad gwych gan ail dîm Cymru felly ond bydd y sylw yn awr yn troi at y gêm ragbrofol nos Fawrth. Cafodd y Weriniaeth Tsiec ganlyniad da iawn heno, gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Gwlad Belg.

.

Cymru

Tîm: Hennessey, Gunter, Cabango, Norrington-Davies, J. Williams (C. Roberts 86’), T. Lawrence (N. Williams 65’), Levitt (Sheehan 45’), Smith, T. Roberts (Johnson 65’), Matondo (Bale 81’), Moore (Robson-Kanu 45’)

Gôl: Moore 11’

.

Mecsico

Tîm: Ochoa, Rodriguez (Pizzaro 61’),, Gallardo (Arteaga 79’), Salcedo, Montes, Alvarez (Lainez 83’), Herrera, Guardado (Sanchez 62’), Pineda (dos Santos 78’), Corona, Lozano