Aberystwyth 1-1 Penybont

Mae Penybont yn fwy neu lai yn sicr o’u lle yn y chwech uchaf wedi’r toriad yn dilyn gêm gyfartal yn Aberystwyth.

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf yng Nghoedlan y Parc cyn i Mael Davies achub pwynt pwysig i’r ymwelwyr wedi’r egwyl.

Franklin yn sefydlu’r fantais

Harry Frankiln a roddodd Aber ar y blaen gyda’i ail gôl mewn dwy gêm, yn derbyn pas Marc Williams dros yr amddiffyn cyn curo’r golwr.

Gan chwaraewr canol cae y daeth y gôl a unionodd bethau i Benybont hefyd, Davies yn cyrraedd y cwrt cosbi ar ‘rediad trydydd dyn’ bondigrybwyll ac yn gorffen y daclus wedi i Sam Snaith benio pêl hir Oliver Dalton i’w lwybr.

Roedd cerdyn coch hwyr i Gwion Owen ond ni wnaeth hynny gael unrhyw ddylanwad ar y gêm na’r canlyniad.

Gydag un gêm ar ôl cyn i’r tabl hollti, dim ond osgoi colli o dair gôl neu fwy gartref yn erbyn Hwlffordd ddydd Gwener sydd ei angen ar Benybont i sicrhau eu lle yn y chwech uchaf.

 

*

 

Y Barri 6-2 Y Bala

Daeth canlyniad mwyaf trawiadol y penwythnos ar Barc Jenner wrth i’r Barri guro’r Bala o chwe gôl i ddwy, a hynny er iddynt fynd ar ei hôl hi yn gynnar yn y gêm.

Rhoddodd Chris Venables yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond dau funud ond tarodd tîm Gavin Chesterfield yn ôl mewn steil gyda Kayne McLaggon ac Evan Press yn sgorio dwy yr un i sicrhau eu lle yn y chwech uchaf.

Goliau blêr

Ni fydd pedair gôl gyntaf y gêm hon yn ennill gôl y tymor. Deilliodd y ddwy gyntaf o fethiant yr amddiffyn i ddelio’n effeithiol â chiciau gosod. Arweiniodd hynny at ddau beniad syml, Venables yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen cyn i McLaggon unioni.

Cic rydd a greodd ail gôl y Barri toc wedi chwarter awr hefyd; Chris Hugh yn anfon y bêl i’r cwrt cosbi ac Press yn cael rhyddid y bocs i’w phenio i gefn y rhwyd.

Hugh ei hun a gafodd y drydedd yn gynnar yn yr ail gyfnod ac nid oes geiriau a all wneud cyfiawnder â blerwch y gôl hon, haws fyddai ei gwylio!

Frank Worthington-esque

Rhwydodd McLaggon a Press eu hail goliau hwy o’r prynhawn wedi hynny wrth i’r fuddugoliaeth droi’n grasfa. Dilynodd gôl gysur i Kieran Smith ond roedd rhaid aros tan y munudau olaf am eiliad mwyaf safonol y prynhawn a gôl anhygoel Curtis Jemmett-Hutson.

Mae ymosodwr y Barri yn gefnder i Ryan Giggs ond ymddengys mai ‘chwaraewr’ arall a ysbrydolodd y gôl hon. Yn yr wythnos y bu farw Frank Worthington, fe efelychodd Jemmett-Hutson ei gôl enwog i Bolton yn erbyn Ipswich, yn chwarae keepie-uppies yn y cwrt cosbi cyn rhwydo.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Barri yn bedwerydd yn y tabl ac maent bellach yn sicr o orffen yn y chwech uchaf ar yr hollt. Mae’r Bala ar y llaw arall yn aros yn drydydd ond bydd Colin Caton yn dechrau poeni am ganlyniadau diweddar ei dîm, maent bellach wedi colli tair yn olynol.

 

*

 

Y Drenewydd 0-3 Hwlffordd

Cadwodd Hwlffordd eu gobeithion o gyrraedd y chwech uchaf yn fyw gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Drenewydd ar Barc Latham.

Rhwydodd Adar Gleision y Gorllewin dair gôl ar daith lwyddiannus iawn i Faldwyn.

Y Cambrian newydd

Dau gyn chwaraewr Cambrian & Clydach a oedd yng nghanol popeth i Hwlffordd, Corey Shepard a Cameron Keetch yn cyfuno i greu’r gôl agoriadol i Kieran Lewis yn yr hanner cyntaf.

Ar ôl creu’r gyntaf, rhwydodd Keetch yr ail. Mae gan y cefnwr droed chwith fel morthwyl a phrofodd hynny eto gyda hon, yn rhoi dim cyfle o gwbl i Dave Jones yn y gôl.

Rhoddwyd y saws mint ar yr oen funud o ddiwedd y naw deg, Sheppard yn bugeilio’r bêl i lwybr Marcus Griffiths a’r eilydd yn ei harwain yn gelfydd heibio i Jones ac i’r gorlan.

Gobaith ar Wener y Groglith

Mae angen buddugoliaeth o dair gôl ar Hwlffordd ym Mhenybont ddydd Gwener i sicrhau eu lle yn y chwech uchaf, ond bydd buddugoliaeth o unrhyw fath yn ddigon os yw Caernarfon yn colli yn erbyn y Seintiau Newydd.

 

*

 

Y Fflint 0-6 Y Seintiau Newydd

Cafodd y Fflint gweir gan y Seintiau Newydd am yr eildro’r tymor hwn wrth i’r ddau dîm wynebu’i gilydd yng Nghae’r Castell.

Deg gôl i ddim a oedd hi ar Neuadd y Parc yn gynharach yn y tymor a dim ond mymryn yn fwy parchus a oedd y sgôr yn y gêm gyfatebol yn y Fflint wrth iddi orffen yn chwe gôl i ddim y tro hwn!

Pedair mewn chwarter awr

Dechreuodd y Seintiau ar dân gan sgorio pedair yn y chwarter awr agoriadol! Roedd un yr un i Ryan Clarke a Ryan Astles a dwy i Louis Robles.

Gyda phethau’n argoeli i fod yn waeth na deg y tro hwn, fe dynnodd yr ymwelwyr eu traed oddi ar y sbardun wedi hynny ac fe arafodd y sgorio.

Amddiffyn anobeithiol

Mae unrhyw grasfa yn ddibynnol ar gyfuniad o ymosod da ac amddiffyn anobeithiol ac roedd pumed y Seintiau yn ychydig o jôc mewn gwirionedd, y bêl yn cael ei chyflwyno i Greg Draper ar ochr y cwrt cosbi ac Adrian Cieslewicz yn rhwydo.

Ryan Brobbel a gafodd unig gôl wedi’r egwyl, yn cwblhau’r gweir yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Mae’r canlyniad yn gadael y ddau dîm yn ail yn y tabl ond dim marciau am ddyfalu pa un sydd yn ail o’r brig a pha un sydd yn ail o’r gwaelod!

 

*

 

Caernarfon 3-2 Met Caerdydd

Rhoddwyd hwb i obeithion Caernarfon o gyrraedd y chwech uchaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Met Caerdydd ar yr Oval yng ngêm fyw Sgorio.

Gorffennodd y Cofis y gêm gyda deg dyn ond dal eu gafael ar y tri phwynt er gwaethaf gôl hwyr gan y Myfyrwyr.

Nid Neuer mo Lang

Deuddeg munud yn unig a oedd ar y cloc pan aeth Caernarfon ar y blaen ond roedd hi’n gôl wael i’w hildio o safbwynt y Met. Roedd Alex Lang yn ffansio’i hun fel ychydig o Manuel Neuer yn crwydro o’i gôl ond cafodd ei ddal yn nhir neb a mesurodd Jack Kenny ei rediad yn berffaith i gasglu pas dreiddgar Noah Edwards ac agor y sgorio.

Dyblodd y Cofis eu mantais wedi deg munud o’r ail hanner, Mike Hayes yn sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd ddiangen Bradley Woolridge ar Mike Parker.

Hwb gan Harry

Roedd angen hwb ar Met ac fe gawsant un o’r fainc ar ffurf Harry Owen. Roedd yr eilydd yn edrych yn fywiog ac fe dorrodd y trap camsefyll cyn codi’r bêl yn gelfydd dros Josh Tibbets, dim ond un gôl ynddi gyda hanner awr i fynd.

Rhoddwyd hwb pellach i obeithion yr ymwelwyr pan dderbyniodd capten Caernarfon, Gareth Edwards, ail gerdyn melyn a cherdyn coch am drosedd ar Owen.

Y tîm cartref a sgoriodd y gôl nesaf holl bwysig serch hynny, Jake Bickerstaff yn rhwydo wedi gwrthymosodiad da gan Hayes.

Tynnodd Eliot Evans un yn ôl o’r smotyn yn dilyn llawiad Ryan Williams ond honno oedd cic olaf y gêm i bob pwrpas.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Caernarfon yn chweched yn y tabl gydag un gêm i fynd cyn i’r tabl hollti. Maent dri phwynt yn glir o Hwlffordd yn y seithfed safle, felly bydd pwynt yn ddigon iddynt oddi cartref yn erbyn y Seintiau Newydd ddydd Gwener.

 

*

 

Gwilym Dwyfor