Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i sylwadau hiliol mewn negeseuon sydd wedi cael eu hanfon at Rabbi Matondo a Ben Cabango, dau o bêl-droedwyr croenddu Cymru.
Daw hyn ar ôl i Rabbi Matondo gyhuddo gwefan gymdeithasol Instagram o “wneud dim byd” ar ôl iddo fe a Ben Cabango, chwaraewr croenddu arall, gael eu sarhau’n hiliol ar y cyfrwng.
Cawson nhw eu sarhau yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 dros Fecsico neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 27).
Roedd Matondo, sydd ar fenthyg yn Stoke, a Cabango, amddiffynnwr canol Abertawe, yn nhîm Cymru a ddechreuodd y gêm.
“Ac mae’n parhau,” meddai Matondo ar Twitter.
“Wythnos arall o @instagram yn gwneud dim byd am sarhad hiliol.
“Ond bydd fy Insta yn cael ei thynnu i lawr os ydw i’n postio unrhyw glipiau o gemau… #blaenoriaethau.”
Mae’r Press Association yn dweud eu bod nhw wedi gofyn i Gymdeithas Bêl-droed am eu hymateb i’r digwyddiad.
Datganiad yr heddlu a’r Gymdeithas Bêl-droed
Mae Heddlu’r De yn dweud na fydd “y fath ymddygiad yn cael ei oddef yn ein cymdeithas”.
“Mae’r llu yn cymryd troseddau casineb o ddifri ac rydym wedi cydweithio’n agos â’r sawl sydd ynghlwm wrth bêl-droed i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr,” meddai llefarydd.
Yn eu datganiad nhw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud bod “pob math o ymddygiad sy’n gwahaniaethu yn gwbl annerbyniol ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ei gondemnio’n llwyr”.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n trafod â Heddlu’r De er mwyn sicrhau bod y fath ymddygiad ffiaidd yn cael ei riportio a bod ymchwiliad iddo.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ymuno â chymdeithasau cenedlaethol eraill a chlybiau wrth annog llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac awdurdodau rheoleiddio i gymryd camau cryfach, mwy effeithiol a brys yn erbyn yr ymddygiad gwarthus hwn.”
Ymateb Abertawe
Mewn datganiad, mae Julian Winter, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi beirniadu’r sylwadau a gafodd eu gwneud i Ben Cabango.
“Fel clwb pêl-droed, rydym wedi ffieiddio gan hyn,” meddai.
“Ddylai neb orfod godde’r math yma o sarhad.
“Mae Ben yn cynrychioli ei wlad, mae e’n Gymro balch ac mae’n eiliad falch iddo fe a’i deulu.
“Yn drist iawn, yn hytrach na siarad am bêl-droed, rydym unwaith eto’n trafod y sarhad ffiaidd yma sy’n parhau i fod yn staen ar y gêm a’r gymdeithas.
“Rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol weithredu’n awr.
“Dydy geiriau ddim yn ddigon bellach – rhaid iddyn nhw fynd y tu hwnt er mwyn cyflwyno cyfyngiadau addas a brwydro yn erbyn y fath lefelau ofnadwy o sarhad.
“Byddwn yn cefnogi Ben yn ddiflino ar y mater hwn ac yn ei gefnogi ym mhob ffordd bosib.”