Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi gorffen yn y trydydd safle yn ras feics Volta a Catalunya.

Fe wnaeth e orffen 49 eiliad y tu ôl i Adam Yates a 45 eiliad y tu ôl i Richie Porte, a’r tri ohonyn nhw’n aelodau o dîm Ineos.

Dyma berfformiad gorau’r tymor i’r seiclwr o Gaerdydd, wrth iddo fe ddechrau troi ei sylw at y Tour de France yn yr haf.

A hwn hefyd yw’r tro cyntaf i Ineos gael tri chystadleuydd ar yr un podiwm ers i’r tîm gael ei sefydlu yn enw Sky yn 2010, a’r tro cyntaf ers 1960 i dri aelod o’r un tîm orffen y Volta ar y podiwm.

Mae’n rhagori o dipyn ar ei berfformiad yn Etoile de Besseges lle’r oedd e’n rhif 49, a’r Tour du Var lle’r oedd e’n 26ain.

Daeth e’n 24ain yn y Tirenno-Adriatico yn yr Eidal.