Mae Taulupe Faletau a Louis Rees-Zammit ar restr fer o chwech o chwaraewyr ar gyfer gwobr Chwaraewr Gorau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.

Mae’r ddau Gymro’n ymuno â’r Gwyddelod Tadhg Beirne a Robbie Henshaw, y Ffrancwr Antoine Dupont a’r Albanwr Hamish Watson.

Enillodd Cymru y Goron Driphlyg, ac yna’r bencampwriaeth am yr ail waith mewn tair blynedd, a’u pencampwriaeth gyntaf o dan arweiniad y prif hyfforddwr Wayne Pivac.

Mae’r rhestr fer wedi cael ei llunio gan 12 o newyddiadurwyr a darlledwyr o’r chwe gwlad sy’n cystadlu yn y bencampwriaeth.

Taulupe Faletau

Oni bai am berfformiad Louis Rees-Zammit, byddai’r wythwr Taulupe Faletau wedi cael mwy o sylw yn y gêm yn erbyn yr Alban, wrth iddo fe wneud 19 tacl fel rhan o amddiffyn cadarn Cymru.

Cafodd ei enwi’n seren y gêm yn erbyn Lloegr, wrth i Gymru guro’r Saeson o 40-24 yng Nghaerdydd, ac fe gariodd e’r bêl 18 o weithiau yn yr ornest, wyth yn fwy nag unrhyw chwaraewr arall o Gymru.

Fe wnaeth e hefyd ennill 112 metr o diriogaeth.

Louis Rees-Zammit

Sgoriodd yr asgellwr Louis Rees-Zammit bedwar cais yn y gystadleuaeth.

Daeth y cyntaf ohonyn nhw yn y fuddugoliaeth o 21-16 dros Iwerddon.

Ond daeth ei berfformiad gorau yn erbyn yr Alban, wrth i Gymru ennill o 25-24, pan sgoriodd e ddau gais.

Ac fe gwblhaodd ei gyfraniad gyda phedwerydd cais wrth redeg hyd y cae yn y gêm yn erbyn yr Eidal, wrth i Gymru roi crasfa iddyn nhw o 48-7.

Mae modd pleidleisio drwy fynd i wefan y Chwe Gwlad.