Mae Andrew Balbirnie, y Gwyddel fydd yn dechrau’r tymor criced newydd fel tramorwr gyda thîm Morgannwg, yn dweud bod Covid-19 wedi rhoi’r cyfle yn ôl i Wyddelod a gafodd ei dynnu oddi arnyn nhw gan Brexit.

Fe fu’r batiwr o Ddulyn yn siarad â golwg360 ar drothwy’r tymor newydd, ac yntau wedi cael dychwelyd i Gymru yn absenoldeb yr Awstraliad Marnus Labuschagne, sy’n gorffen y tymor criced domestig yn ei famwlad cyn teithio i Gaerdydd.

Roedd Morgannwg wedi ystyried gofyn i Colin Ingram, eu tramorwr mewn gemau undydd, i chwarae yn y gemau pedwar diwrnod, ond mae cyfyngiadau teithio o Dde Affrica yn golygu nad yw hynny’n bosib.

Gyda chyfyngiadau teithio o sawl gwlad mewn grym o hyd, mae’n debygol y bydd mwy o Wyddelod yn cael chwarae i’r siroedd y tymor hwn ac efallai y tu hwnt i hynny.

Andrew Balbirnie
Andrew Balbirnie

Covid-19

Daeth unig gêm pedwar diwrnod sirol Balbirnie i Middlesex yn erbyn Surrey yn 2012, ac fe adawodd e’r sir ar ôl colli tymor cyfan 2016 oherwydd anaf.

Mae ambell chwaraewr o Iwerddon wedi gadael y gêm sirol er mwyn cynrychioli Iwerddon ar hyd y blynyddoedd, ond prin yw’r Gwyddelod sydd wedi dod i’r gêm sirol fel chwaraewyr rhyngwladol profiadol.

Ond mae Covid yn cynnig cyfle, yn ôl Balbirnie, sy’n ildio bod y sefyllfa’n “catch 22” ar y cyfan.

“Mae’n rhyfedd. Wrth i fi gerdded o amgylch Caerdydd, roedd popeth ynghau yn sgil y pandemig, sy’n drueni, ond ar yr un pryd, oni bai am y pandemig, mae’n debyg na fyddwn i yma’n cael cyfle felly mae’n sefyllfa catch 22, ond mae’n sicr yn gyfle da i fi.

“Roedd dau Wyddel arall yn y NatWest Blast y llynedd, sef Gareth Delany a Paul Stirling.

“Dydyn ni ddim yn bell i ffwrdd o gwbl. Wnes i neidio ar y fferi ar y nos Sul ac ro’n i yma o fewn ychydig oriau, felly mae’n wych o’r safbwynt yna a gobeithio y bydd cricedwyr o Iwerddon yn cael cydnabyddiaeth a’r cyfleoedd dwi wedi bod yn ffodus o’u cael.”

Brexit

Covid, efallai, sydd wedi cynnig y cyfle a gafodd ei dynnu oddi ar chwaraewyr o ganlyniad i Brexit.

Cyn Brexit, fe fyddai Gwyddelod wedi cael chwarae fel chwaraewyr Kolpak, trefn a gafodd ei sefydlu o ganlyniad i chwaraewr pêl-law o Hwngari oedd wedi mynnu’r hawl i gael chwarae yn yr Almaen.

Ond yn sgil ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, dydy’r drefn Kolpak – sef hawl unigolion o’r tu allan i’w Undeb Ewropeaidd i weithio yn un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd – ddim bellach yn weithredol.

Mae’n golygu mai fel tramorwyr yn unig y bydd Gwyddelod yn cael chwarae o hyn ymlaen, ac mae Andrew Balbirnie yn poeni y bydd chwaraewyr y dyfodol yn colli cyfle yn sgil hynny.

“Dwi wedi dweud o’r blaen ei bod hi’n anodd, yn enwedig i’n cricedwyr ifainc, nad yw criced sirol mor hygyrch oherwydd wnes i ddarganfod mai criced sirol oedd yr addysg orau ges i yn nhermau fy sgiliau criced,” meddai.

“Ond dydy’r bois ifainc yn Iwerddon ddim yn cael y cyfle hwnnw, ond maen nhw’n cael y cyfle i chwarae gemau prawf, felly mae’n debyg na allwch chi gael y ddau beth ond yn ffodus, fel dwi wedi’i ddweud, dwi wedi gallu cael sawl cyfnod mewn criced sirol dros y blynyddoedd diwethaf.”

Staws prawf ond prinder gemau

Er bod gan Iwerddon statws tîm prawf ers 2018, dim ond tair gêm brawf mae’r tîm cenedlaethol wedi’u chwarae – a dydyn nhw ddim wedi chwarae o gwbl ers iddyn nhw herio Lloegr yn Lord’s yn 2019.

Mae Andrew Balbirnie, sy’n gapten ar y tîm cenedlaethol erbyn hyn, yn dweud ei fod e’n ysu am gael chwarae rhagor o gemau prawf.

“Mae’n destun cryn dipyn o rwystredigaeth ein bod ni ond wedi cael blas arni,” meddai.

“Ac o fod ynddi ar gyfer y tair gêm ac o fod â chyfle i ennill y tair gêm ond methu â chroesi’r llinell, rydych chi eisiau cael mwy ohoni a chael y cyfle i brofi’ch hunain yn erbyn y goreuon.

“Dyma fy hoff fformat a gobeithio na fydda i’n eistedd yn ôl ymhen deng mlynedd neu bymtheg yn difaru ’mod i heb chwarae mwy o gemau prawf.

“Gobeithio bod mwy o gemau prawf i ddod i Iwerddon oherwydd, fel dywedais i, dyna’r prawf eithaf a’r math gorau o griced.”

Er nad oes gemau prawf ar y gorwel, mae gan dîm undydd Iwerddon flwyddyn brysur o’u blaenau gyda chyfresi i ddod yn erbyn De Affrica, Zimbabwe a’r Iseldiroedd ac mae Balbirnie yn croesawu’r cyfle i gael paratoi drwy chwarae nifer o gemau i Forgannwg yn ystod mis Ebrill.

“Mae’n debyg mai’r peth da am fod draw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yw fy mod i’n cael pythefnos neu dair wythnos i baratoi cyn y gêm Bencampwriaeth gyntaf fel fy mod i’n cael ymgyfarwyddo yma a dod i arfer â’r amodau a’r bêl goch gymaint â phosib.

“Yna, unwaith fydd y tymor yn dechrau ac yn ddibynnol ar Covid, bydd gyda ni haf hir o’n blaenau felly croesi bysedd y cawn ni hynny.”

Dychwelyd i Gaerdydd

Ac yntau wedi dilyn cwrs hyfforddi chwaraeon yn yr hen UWIC (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd erbyn hyn), fydd dim rhaid iddo fe dreulio amser hir yn ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Ond yn wahanol iawn i brifddinas sy’n llawn myfyrwyr, mae e wedi dychwelyd i’r distawrwydd llethol yng nghanol y pandemig.

“Mae Caerdydd yn sicr yn wahanol nawr, am wn i, gyda’r holl gyfyngiadau Covid a’r hen lefydd y byddwn i wedi mynd iddyn nhw yn y brifysgol wedi’u cau ar hyn o bryd yn anffodus,” meddai.

“Ond dw i wedi bod ’nôl ar gyfer gemau rygbi ac ati. Mae’n wych, a fel dywedais i, mae’n agos iawn at fy nghalon i ac mae wedi bod yn ddinas dda iawn i fi.”

Ac mae’n canmol y cwrs a’r hyfforddwyr i’r cymylau am ei roi e ar ben ffordd fel cricedwr proffesiynol.

“Roedd yn lle gwych i gael astudio fel rhan o gynllun Prifysgolion Caerdydd yr MCC am dair blynedd gyda Kevin Lyons a Mark O’Leary, felly wnes i ddysgu tipyn,” meddai.

“Dw i’n credu bod fy addysg griced yn un o’r adegau gorau dros y tair blynedd. Fe wnes i ffrindiau da iawn. Mae’n wych cael bod yn ôl, ddegawd yn ddiweddarach am wn i.

“Wnes i wir fwynhau gweithio gyda nhw y llynedd,” meddai am y prif hyfforddwr Matthew Maynard a’r Cyfarwyddwr Criced, Mark Wallace.

“Yn amlwg, mae Matt yn gricedwr profiadol dros ben, mae e wedi bod o gwmpas ers amser hir ac mae e’n arweinydd gwych, felly mae e’n rhywun y gwnes i wir fwynhau gweithio gyda fe y llynedd.

“A Mark Wallace hefyd. Daeth e â fi draw yma ac fe wnaeth e sortio’r cyfan drwy fy asiant, Niall O’Brien.”

Chwarae i Forgannwg

Ac yntau’n brif sgoriwr y sir mewn gemau ugain pelawd y tymor diwethaf, mae’n disgwyl her wahanol y tymor hwn mewn gemau pedwar diwrnod – yn enwedig yn y gêm gyntaf yn erbyn Swydd Efrog, un o’r siroedd gorau yn y gystadleuaeth.

“Wnes i ddim dechrau cystal ag y byddwn i wedi hoffi, efallai, ond wnes i orffen y tymor yn dda,” meddai am dymor 2020.

“Mae’n her wahanol ar ddechrau’r tymor gyda’r gystadleuaeth bêl goch ond bydd sgorio rhediadau y llynedd yn sicr yn helpu o ran hyder.

“Mae’r [gêm] gyntaf yn sefyll allan, am wn i. Mae gêm gynta’r ymgyrch bob amser yn bwysig.

“Mae Swydd Efrog yn dîm sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Siroedd mor aml dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n her wych i’r bois.

“Maen nhw i gyd yn ysu i gael mynd allan a dangos eu sgiliau, felly gobeithio ein bod ni’n dechrau’r gystadleuaeth yn dda ac yn mynd o’r fan honno.

“Mae’r clwb yn urddasol, yn gartrefol, ac mae sawl tebygrwydd ag Iwerddon o safbwynt eu lletygarwch.

“Mae’n wych cael bod draw yma, a dw i wedi cyffroi o gael dechrau arni.”

Morgannwg yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC

Mae’r gêm baratoadol rhwng Morgannwg a Phrifysgolion Caerdydd yr MCC yn dechrau heddiw (dydd Llun, Mawrth 29), ac mae’r ddwy garfan wedi cael eu cyhoeddi.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), A Balbirnie, L Carey, K Carlson, J Cooke, D Douthwaite, M Hogan, D Lloyd, J McIlroy, B Root, N Selman, C Taylor, T van der Gugten.

Carfan Prifysgolion Caerdydd yr MCC: AJ Woodland (capten), T Bevan, C Gibson, A Gorvin, L Machado, E Mason, S Pearce, T Phillips, S Reingold, S Saeed, A Simpson, H Ward, T Wyatt.