Mae Facebook wedi cau cyfrifon Instagram a anfonodd sylwadau hiliol at ddau o chwaraewyr pêl-droed croenddu Cymru dros y penwythnos.

Cafodd Rabbi Matondo a Ben Cabango eu sarhau yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 mewn gem gyfeillgar yn erbyn Mecsico nos Sadwrn (Mawrth 27), ac mae’r Heddlu yn ymchwilio i’r mater.

Bu i Rabbi Matondo gyhuddo gwefan gymdeithasol Instagram, sy’n berchen i Facebook, o “wneud dim byd”.

Mae hefyd yn dweud y byddai’r cwmni’n gweithredu pe bai’n postio fideos o’i gemau – hynny yw, mynd yn groes i reolau hawlfraint.

Yr honiad yw bod y cwmnïau’n barod iawn i wetihredu pan dorrir rheolau hawlfraint, ond yn yn llai parod gyda hiliaeth.

Mae sylwadau Matondo’n ategu sylwadau Thierry Henry a adawodd y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud na fyddai’n dychwelyd nes bod cwmnïau’n “rheoleiddio eu platfformau gyda’r un egni a ffyrnigrwydd ag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd pan fyddwch yn torri hawlfraint”.

Bale yn ychwanegu ei lais

Mae’r capten, Gareth Bale, hefyd wedi bod yn trafod y mater.

“Doedd hi ddim yn braf deffro ddydd Sul i glywed y pethau hyn,” meddai Bale. “Mae Ben, Rabbi ac unrhyw un arall yn gwybod ein bod ni yma i siarad â nhw a’u cefnogi nhw os oes ei angen.

“Mae angen i rywbeth ddigwydd o ran y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol…

“Rwy’n credu y byddai hynny’n atal pobl rhag dweud pethau oherwydd yna byddwch yn gallu eu holrhain a’u dal yn atebol.”

Dywedodd Gareth Bale y byddai’n barod i ymuno â boicot o’r cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein.

“Pe bai pawb yn ei wneud ar unwaith, nid dim ond un neu ddau o bobl, byddwn i,” meddai Bale.

“Pe bai’n ymgyrch lle’r oedd llawer o bobl ddylanwadol mewn chwaraeon a meysydd eraill ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud datganiad yna rwy’n credu y gallai hynny helpu.

Os oedd hynny’n digwydd, byddwn yn cefnogi.”

Y cwmni yn addo “gwneud mwy”

Mae’r cyfrifon a anfonodd negeseuon hiliol at Matondo a Cabango bellach wed’i eu diddymu, ac mae’r cwmni’n dweud eu bod wedi ymrwymo i “wneud mwy” a “cymryd camau llymach” i fynd i’r afael a camdriniaeth o’r fath.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Facebook:

“Dydyn ni ddim eisiau’r math yma o gamdriniaeth ar Instagram ac rydyn ni wedi cau’r cyfrifon a anfonodd y negeseuon hyn at Ben Cabango a Rabbi Matondo dros y penwythnos.

“Fe wnaethom gyhoeddi’n ddiweddar y byddwn yn cymryd camau llymach pan fyddwn yn dod yn ymwybodol o bobl yn torri ein rheolau mewn negeseuon preifat (DM).

Er hynny, mae’r cwmni’n cydnabod bod y gwaith o atal camdriniaeth o’r fath ar y platfform poblogaidd hwn yn “parhau” a’u bod wedi ymrwymo i “wneud mwy”.

“Rydym hefyd yn gwybod bod y problemau hyn yn fwy na ni,” meddai’r datganiad.

“Felly rydym yn gweithio gyda’r diwydiant, y llywodraeth, ac eraill, i ysgogi newid cymdeithasol ar y cyd drwy weithredu ac addysgu.”

“Cymryd troseddau casineb o ddifri”

Yn y cyfamser, mae Heddlu’r De yn ymchwilio i’r digwyddiad ac maent wedi datgan na fydd “y fath ymddygiad yn cael ei oddef yn ein cymdeithas”.

“Mae’r llu yn cymryd troseddau casineb o ddifri ac rydym wedi cydweithio’n agos â’r sawl sydd ynghlwm wrth bêl-droed i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r De.

Yn eu datganiad nhw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud bod “pob math o ymddygiad sy’n gwahaniaethu yn gwbl annerbyniol ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ei gondemnio’n llwyr”.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n trafod â Heddlu’r De er mwyn sicrhau bod y fath ymddygiad ffiaidd yn cael ei riportio a bod ymchwiliad iddo.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ymuno â chymdeithasau cenedlaethol eraill a chlybiau wrth annog llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac awdurdodau rheoleiddio i gymryd camau cryfach, mwy effeithiol a brys yn erbyn yr ymddygiad gwarthus hwn.”

“Ddylai neb orfod godde’r math yma o sarhad”

Mewn datganiad, mae Julian Winter, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi beirniadu’r sylwadau a gafodd eu gwneud i Ben Cabango.

“Fel clwb pêl-droed, rydym wedi ffieiddio gan hyn,” meddai.

“Ddylai neb orfod godde’r math yma o sarhad.

“Mae Ben yn cynrychioli ei wlad, mae e’n Gymro balch ac mae’n eiliad falch iddo fe a’i deulu.

“Yn drist iawn, yn hytrach na siarad am bêl-droed, rydym unwaith eto’n trafod y sarhad ffiaidd yma sy’n parhau i fod yn staen ar y gêm a’r gymdeithas.

“Rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol weithredu’n awr.

“Dydy geiriau ddim yn ddigon bellach – rhaid iddyn nhw fynd y tu hwnt er mwyn cyflwyno cyfyngiadau addas a brwydro yn erbyn y fath lefelau ofnadwy o sarhad.

“Byddwn yn cefnogi Ben yn ddiflino ar y mater hwn ac yn ei gefnogi ym mhob ffordd bosib.”

Ben Cabango

Facebook yn cau cyfrifon wedi i bêl-droedwyr Cymru dderbyn camdriniaeth hiliol

Gareth Bale yn ychwanegu ei lais a’r cwmni’n dweud eu bod wedi ymrwymo i “wneud mwy”

Heddlu’n ymchwilio i sylwadau hiliol mewn negeseuon at Rabbi Matondo a Ben Cabango

“Wythnos arall o @instagram yn gwneud dim byd am sarhad hiliol,” meddai Rabbi Matondo ar Twitter