Dywed Gareth Bale y byddai’n barod i ymuno â boicot cyfryngau cymdeithasol i fynd i’r afael â cham-drin ar-lein.

Cafodd ffrindiau tîm rhyngwladol Bale, Ben Cabango a Rabbi Matondo, eu cam-drin yn hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi buddugoliaeth gyfeillgar Cymru dros Fecsico ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu De Cymru bellach yn ymchwilio i’r sylwadau hiliol, ac mae Facebook wedi cau cyfrifon y rhai a anfonodd y negeseuon.

Ddydd Gwener diwethaf cyhoeddodd Thierry Henry mewn datganiad y byddai’n diffodd ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan ddisgrifio’r lefelau presennol o hiliaeth a bwlio ar lwyfannau ar-lein fel “rhy wenwynig i’w hanwybyddu”.

Wrth siarad cyn gêm rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ddydd Mawrth, dywedodd Bale: “Pe bai pawb yn ei wneud ar unwaith, nid dim ond un neu ddau o bobl, byddwn i’n gwneud hynny.

Dylanwadol

“Pe bai’n ymgyrch lle’r oedd llawer o bobl ddylanwadol mewn chwaraeon a mathau eraill o fywyd yn ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol i wneud datganiad yna rwy’n credu y gallai helpu. Os oedd hynny’n wir, rwy’n hollol gefnogol i hynny.”

O ran y cam-drin a ddioddefwyd gan Cabango a Matondo, dywedodd y blaenwr 31 oed, sydd ar fenthyg yn Tottenham o Real Madrid: “Doedd hi ddim yn braf deffro ddydd Sul i glywed y pethau hyn.

“Mae Ben, Rabbi ac unrhyw un arall yn gwybod ein bod ni yma i siarad â nhw a’u cefnogi os oes ei angen arnyn nhw.

“Mae angen i rywbeth ddigwydd o ran y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol, gan ystyried os y dylai fod yn angenrheidiol bod pobl sy’n cael cyfrif yn gorfod dangos eu pasbort.

“Rwy’n credu y bydd hynny’n atal pobl rhag dweud pethau oherwydd yna byddwch yn gallu eu holrhain a’u dal yn atebol.”

Yn y cyfamser, dywedodd cyn-chwaraewr Ffrainc, Arsenal a Barcelona Thierry Henry ei fod wedi gadael y cyfryngau cymdeithasol ar ôl tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng bwlio ar-lein â iechyd meddwl a hunanladdiad.

Hiliaeth

“Yn ddiweddar mae yna lot o chwaraewyr wedi wynebu camdriniaeth ar-lein,” meddai Thierry Henri wrth Good Morning Britain.

“Dw i ddim yn meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yn lle sâff ar hyn o bryd.

“Mae pobol yn wynebu hiliaeth, ond rwyf yn siarad yn y datganiad am fwlio ac aflonyddu sy’n gallu achosi problemau iechyd meddwl. Mae pobol yn lladd eu hunain oherwydd hyn.

“Mae’n anodd iawn cael gwared ar bopeth, ond all pethau fod yn saffach? Rydym ni’n gwybod eu bod nhw’n ddefnyddiol, ond mae nifer o bobol yn defnyddio nhw fel arf. Pam? Oherwydd eu bod nhw’n gallu cuddiad tu ôl i gyfrifon ffug.

“Rwy’n gwybod mai cyfran fechan o’r byd sy’n defnyddio’r [cyfryngau cymdeithasol] fel arf. ‘Ydi hi’n bosib iddyn nhw fod yn saffach?’ ydi’r unig beth ydw i’n ei ofyn. Byddaf yn ôl, pan maen nhw’n sâff.”

Ben Cabango

Facebook yn cau cyfrifon wedi i bêl-droedwyr Cymru dderbyn camdriniaeth hiliol

Gareth Bale yn ychwanegu ei lais a’r cwmni’n dweud eu bod wedi ymrwymo i “wneud mwy”