Mae dyn 44 oed wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad ym Minffordd ger Porthmadog yr wythnos diwethaf.

Mae Tony Thomas o Benrhyn Isaf, Minffordd, Penrhyndeudraeth, wedi ei gyhuddo o ladd Dafydd Thomas, 65, ar Mawrth 25.

Yn gwisgo siwmper a throwsus llwyd, cadarnhaodd ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni yn Llys Ynadon Llandudno.

Dalfa

Ni ddatgelwyd unrhyw fanylion pellach am yr achos, ond awgrymodd ei dwrnai, Owain Jones, y bydd ei gleient yn pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Cafodd Tony Thomas ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yfory (dydd Mawrth 30 Mawrth).

Roedd Dafydd Thomas yn ddyn busnes adnabyddus ac yn gyfarwyddwr cwmni Gwynedd Environmental Waste Services (GEWS) Ltd, wedi’i leoli ym Mhenrhyndeudraeth.