Bydd unigolion dynonedig yn gallu ymweld â chartrefi gofal Cyngor Sir Ceredigion o heddiw ymlaen (Mawrth 29).
Fe fydd pob ymweliad cychwynnol yn cael eu cynnal mewn cyfleuster ymweld diogel, a bydd rhaid i bob ymwelydd lenwi holiadur iechyd cyn yr ymweliad.
Bydd pob ymwelydd dynodedig yn gallu trefnu un ymweliad 30 munud o hyd pob wythnos, ond ni fydd plant o dan 18 oed yn cael ymweld ar hyn o bryd.
“Rydym yn parhau i fod mewn cyfnod ansicr iawn, ac felly mae angen i ni barhau â chynllunio cadarn a dull graddol er mwyn atal unrhyw frigiadau pellach yn ein cartrefi gofal,” meddai Cyngor Sir Ceredigion.
Graddol
“Byddwn yn adolygu’r trefniadau ymweld yn unol â’r llwybr ymweld cyn belled â bod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn parhau i ostwng a bod y staff a’r preswylwyr wedi derbyn ail ddos y brechlyn.
“Rydym yn dilyn dull araf a graddol o ail-gyflwyno ymweliadau â’n cartrefi gofal er mwyn sicrhau diogelwch y preswylwyr a’n staff.
“Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i ni atal ymwelwyr mewn unrhyw gartref ar unrhyw adeg o bosibl. Bydd y penderfyniad i atal unrhyw ymweliadau yn deillio o bryderon sy’n ymwneud â COVID-19 neu unrhyw faterion eraill a allai effeithio ar gynnal ymweliadau.
“Mae diogelu pobl fregus yn y sir yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Gyngor Sir Ceredigion. Diolchwn i bawb am eu cefnogaeth barhaus drwy ddilyn y rheolau i gadw ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau’n ddiogel yn y cyfnod digynsail hwn.”
Ni fydd unigolion yn gallu trefnu unrhyw ymweliadau uniongyrchol â’r cartrefi gofal, ac mae gofyn i bobol gysylltu â Clic Ceredigion er mwyn trefnu ymweliadau.