Fe wnaeth arweinydd cerddorfeydd o Awstralia benderfynu dysgu Cymraeg y llynedd, ac mae hi wedi disgyn mewn cariad gyda’r iaith a’i hanes.

Roedd Jen Bailey, sydd bellach yn byw yn yr Iseldiroedd, eisoes yn siarad wyth iaith pan benderfynodd ddysgu Cymraeg drwy ap Duolingo.

Yna, cofrestrodd ar gwrs Dysgu Cymraeg ac mae bellach yn mynychu cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd Jen Bailey ei magu ar fferm yn Wheatbelt, Gorllewin Awstralia, a thaniwyd ei diddordeb yn y Gymraeg pan oedd hi’n ifanc.

Cyn ymgartrefu yn yr Iseldiroedd, bu Jen Bailey yn byw yn America, Ffrainc, yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, Libya, yr Alban, a Lloegr. O ganlyniad, mae wedi dysgu sawl iaith.

“Dw i mor falch fy mod i’n dysgu’r iaith erbyn hyn. Mae’n gyfnod gwych i ddysgu Cymraeg ar-lein, a dw i’n manteisio ar bob cyfle posib i siarad Cymraeg trwy fynychu boreau coffi rhithiol, sesiynau coginio, a llawer mwy,” meddai Jen Bailey.

‘‘Mae’n anodd defnyddio unrhyw iaith os mai rhai geiriau yn unig sy’n gyfarwydd. Hoffwn annog eraill i fynd amdani a defnyddio eu Cymraeg cymaint â phosib!

Dros y blynyddoedd mae hi wedi bod yn arwain cerddorfeydd, bandiau, a chorau ar hyd a lled y byd.

Ers dechrau’r pandemig, mae hi wedi troi ei llaw at ddysgu cerddoriaeth ar-lein, a dysgu Cymraeg yn ei hamser hamdden.

‘‘Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd i gerddorion, gan fod cerddorfeydd wedi gorfod rhoi’r gorau i ymarfer a pherfformio, ac mae cynllunio ar gyfer y dyfodol agos wedi bod yn amhosib.

Dw i’n falch fy mod i wedi defnyddio’r cyfnod yma i ddysgu Cymraeg a dod i adnabod rhai o’r tiwtoriaid bendigedig sy’n amlwg wrth eu boddau gyda’r hyn y maent yn ei wneud.’’

‘‘Mae dysgu Jen yn bleser pur. Mae ei chymeriad lliwgar, a’i dawn naturiol i ddysgu ieithoedd i’w gweld yn glir yn y sesiynau Zoom,” ychwanegodd ei thiwtor, Catherine Davies-Woodrow.

“Bydd Jen yn rhugl cyn bo hir a’r Gymraeg yn dod yn rhan o’i ‘repertoire!’  Mae’n galonogol gweld cymaint yw apêl y Gymraeg ledled y byd.’’