Bydd Clwb Golff Llanymynech yn agor eto yfory (dydd Mercher, Mai 13), gan ddilyn rheolau gwarchae Lloegr, nid Cymru.
Fe fu dryswch ynghylch y clwb golff, gyda 15 o dyllau yn Sir Amwythig yn Lloegr, dau ym Mhowys ac un sy’n croesi’r ffin.
Doedd hi ddim yn glir wrth benderfynu a fyddai’r clwb yn agor eto pa drefn fyddai’n ei dilyn.
Tra bod Boris Johnson wedi rhoi’r hawl i bobol chwarae golff eto yn Lloegr, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi cynnwys hynny yn y rhestr o weithgareddau gall pobol eu gwneud yma.
‘Penderfyniadau anodd’
Mewn datganiad, mae’r clwb yn dweud iddyn nhw orfod gwneud “nifer o benderfyniadau anodd er mwyn goroesi heb orfod ymdrin â chyrff llywodraethu sy’n methu cytuno ar ganllawiau addas, synhwyrol sydd nid yn unig yn gwarchod y cyhoedd, ond bodolaeth clybiau chwaraeon hefyd”.
Yn y twll sy’n croesi’r ffin, mae chwaraewyr yn dechrau’r twll yng Nghymru ac yn ei orffen yn Lloegr.
Ac yn ôl y clwb, mae’r rhan fwyaf o’i 470 o aelodau’n byw yn Lloegr ac felly, eu bod nhw’n dilyn cyngor Undeb Clybiau Golff Sir Amwythig a Sir Henffordd, yn ogystal ag Undeb Golff Lloegr.
O yfory (dydd Mercher, Mai 13), bydd modd chwarae golff, tenis a gemau eraill ar yr amod fod chwaraewyr yn cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol.