Fe fydd safle newydd cwmni ZipWorld ar safle hen bwll glo’r Tŵr yng Nghwm Cynon yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Ebrill 22.
Mae gan y cwmni safle nifer o safleoedd yn y gogledd eisoes, ac roedd disgwyl i’r safle cyntaf yn y de gael ei agor cyn y pandemig Covid-19.
Bydd dau brofiad newydd ar y safle yn Rhigos, sef Zip World Phoenix, y wifren wib ‘ar eich eistedd’ gyflymaf yn y byd, a Big Red, y wifren wib symudol fwyaf yn y byd i blant (270 troedfedd o hyd).
Yn ôl y cwmni, cafodd yr enw ‘Phoenix’ ei ddewis fel ffordd o dalu teyrnged i draddodiad glofaol yr ardal, hynny yw fod y ffenics yn codi o’r llwch.
A chyn bo hir, bydd y Tower Coaster i’w weld pan fydd yn cael ei agor yn swyddogol ddiwedd mis Mai – y llwybr tobogan ochr yn ochr cyffrous hwn fydd yr unig un o’i fath yn Ewrop.
Cyn ei gau yn 2008, hwn oedd y pwll glo dwfn hynaf oedd yn dal i weithio’n barhaus yng ngwledydd Prydain, ac fe ddaeth yn symbol pwerus o wrthsafiad y glowyr yn y 1990au, wrth i weithwyr fuddsoddi eu harian eu hunain o daliadau diswyddo er mwyn achub y pwll glo rhag cael ei gau yn 1994.
‘Rhai o gyrchfannau antur awyr agored gorau’r byd’
“O geudyllau llechi i drac cartiau mewn chwarel, yng Nghymru y ceir rhai o gyrchfannau antur awyr agored gorau’r byd,” meddai Sean Taylor, sylfaenydd Zip World.
“Mae wedi bod yn gyfnod heriol i’r sector twristiaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, ond gydag agoriad Zip World Tower, rydyn ni’n teimlo y bydd y sector yn mynd o nerth i nerth.
“Mae gennym brofiad amlwg o ddiogelu ac adfywio safleoedd eiconig ac fel Cymro brwd, allwn i ddim meddwl am leoliad gwell na chymoedd de Cymru i greu gwaddol newydd a thyfu ein brand y tu allan i ogledd Cymru am y tro cyntaf.
“Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd â’r croeso anhygoel rydyn ni wedi’i gael gan y gymuned leol a busnesau, a dydyn ni ddim yn gallu diolch digon iddyn nhw am eu cefnogaeth barhaus.
“Rydyn ni’n teimlo’n gartrefol yn barod.”
‘Hwb i’r gymuned leol’
Un sy’n croesawu’r datblygiad newydd yw Tyrone O’Sullivan, cadeirydd Pwll Glo’r Tŵr.
“Mae’n wych cael cyfle i hebrwng i mewn y cyfnod newydd hwn yn hanes y Tower, mewn ffordd sy’n cyfleu hanes diwydiannol y safle ac sy’n rhoi hwb i’r gymuned leol hefyd,” meddai.
“Roedd y modd yr oedd Zip World wedi llwyddo i ailddyfeisio chwarel lechi yn atyniad ffyniannus i dwristiaid yn Chwarel y Penrhyn yng Ngogledd Cymru wedi creu argraff fawr arnom, a doedden ni ddim yn gallu meddwl am ffordd well o gynnal etifeddiaeth y safle eiconig hwn.”
Mae disgwyl i’r atyniad greu 50 o swyddi newydd yn ardal y Rhigos yn y lle cyntaf, a mwy wedyn wrth i’r safle gael ei ddatblygu ymhellach.
Mae amcangyfrif y bydd yn denu hyd at 100,000 o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf.