Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i unrhyw un a gafodd y brechlyn Pfizer ac sydd heb dderbyn ail apwyntiad i gysylltu â nhw.

Nod y bwrdd iechyd yw rhoi pob ail ddos brechlyn Pfizer erbyn yr wythnos sy’n dechrau ar Ebrill 12.

Dywed y bwrdd iechyd fod modd gwirio pa frechlyn y gwnaeth rhywun ei dderbyn drwy edrych ar y cerdyn a gafodd ei roi iddyn nhw yn ystod yr apwyntiad cyntaf, a bydd hynny yn rhoi gwybod ai brechlyn Pfizer BioNtech neu AstraZeneca Rhydychen gawson nhw.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gofyn i bobol a gafodd ddos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca Rhydychen i beidio â chysylltu â’u meddygfa na’r bwrdd iechyd er mwyn gofyn am ail apwyntiad am y tro.

Bydd y bwrdd yn cysylltu â phobol wnaeth dderbyn y brechlyn AstraZeneca pan ddaw’r amser.

“Mae ail ddosau yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad tymor hwy, felly mae’n bwysig bod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu cwrs llawn pan gânt eu galw,” meddai Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Cysylltwch â’r bwrdd iechyd ar yr adeg hon dim ond os ydych wedi cael brechlyn cyntaf Pfizer ond heb dderbyn ail apwyntiad brechlyn.

“Bydd staff cartrefi gofal, staff iechyd a gofal cymdeithasol, pobl rhwng 75 a 79 oed a phobl a oedd yn cysgodi, wedi derbyn y brechlyn Pfizer BioNtech yn un o’n canolfannau brechu torfol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro.”

Brechlyn Oxford AstraZeneca

Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â thrigolion cartrefi gofal, pobol dros 80 oed, a phob grŵp blaenoriaeth arall a wnaeth dderbyn brechlyn Oxford AstraZeneca yn eu meddygfa neu mewn canolfan frechu dorfol.

Byddan nhw mewn cysylltiad â’r bobol hyn rhwng 11 a 12 wythnos wedi iddyn nhw dderbyn eu brechlyn cyntaf, gydag apwyntiad ar gyfer yr ail ddos.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn sicrhau bod hwn yn gyfnod priodol a diogel rhwng dau ddos y brechlyn AstraZeneca Rhydychen, ac yn nodi bod adroddiadau cynnar gan Brifysgol Rhydychen yn cefnogi’r cyfnod er mwyn sicrhau effeithlonrwydd mwyaf o’r brechlyn.