Mae gwaith dros dymor y gaeaf i helpu i gadw twyni tywod a chynefin coedwig ar Ynys Môn yn iach bellach wedi’i gwblhau.

Cafodd y gwaith ei gynnal yn sgil prosiect cadwraeth ‘Twyni Byw’, sydd wedi’i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nod hirdymor y prosiect yw adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig ar ddeg safle gwahanol yng Nghymru

Yn Niwbwrch ym Môn, roedd gwaith sylweddol dros y gaeaf er mwyn creu amodau ffafriol i blanhigion brodorol a chynefinoedd bywyd gwyllt ffynnu dros flynyddoedd i ddod.

Gwaith y gaeaf

Mae crafu llystyfiant sydd wedi gordyfu yn helpu i ddod a thywod noeth i’r agored a chreu mwy o gynefin llaith ar gyfer planhigion ac infertebratau.

Ac yn ystod gwaith y gaeaf, cafodd tua 0.36 hectar o’r twyni eu crafu ym Mhant y Wylan – un o’r llennyrch agored isel yn y goedwig ger Twyni Penrhos.

Ymhlith y tasgau eraill roedd torri llystyfiant, adfywio llacio twyni, tynnu bonion a chael gwared â rhywogaethau estron.

Fe wnaeth y contractwyr glirio barf-yr-hen-ŵr a phrysgwydd estron ar ffin Afon Cefni â Choedwig Niwbwrch.

Mae hyn yn caniatáu i adfywiad naturiol prysgwydd helyg a gwern frodorol greu pont naturiol rhwng cynefin agored a choetir.

Y contractwyr wrth eu gwaith

Cafodd gwaith ei gynnal hefyd i gael gwared ar brysgwydd yn llennyrch Pyllau Ffrydiau, Cerrig Duon, Pant y Fuches a Phant Mawr, gan gynnwys cael gwared ar ardal o fambŵ goresgynnol.

Bydd y gwaith hwn yn creu mwy o le i blanhigion brodorol, sy’n tyfu’n isel gael ffynnu, gan gynnwys tafolen y traeth, sydd mewn perygl.

“Helpu i ail-greu cynefin tywod noeth”

“Mae Coedwig a Thywyn Niwbwrch yn lle mor wych ac mae tîm Twyni Byw yn hapus iawn o fod wedi gallu rhoi hwb mawr ei angen i’r cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig yno dros fisoedd y gaeaf,” meddai Leigh Denyer, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw yn y gogledd.

“Er y gall crafu llaciau’r twyni swnio ac edrych yn eithafol i ddechrau, mae ein gwaith yn hanfodol i helpu i ail-greu cynefin tywod noeth sydd wedi bod yn diflannu’n raddol o’n harfordiroedd dros y blynyddoedd.

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith, gan gynnwys cydweithwyr yng Nghyfoeth Naturiol Cymru a’n contractwyr GMD Limited, Tir a Choed, Gwalch Cyf ac AJ Butler.

“Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau ein gwaith dros y blynyddoedd i ddod.”